Torchwood 4 ar y gweill!

Newyddion da o lawenydd mawr. Mae’n ymddangos fod pen bandits y Bîb wedi dod i’w coed, ac wedi penderfynu cynhyrchu cyfres arall o Torchwood - Ianto Jones neu beidio - yn sgil llwyddiant ysgubol Children of Earth yn ddiweddar. Newydd da o ran swyddi teledu BBC Cymru felly, ac i’r ganolfan ymwelwyr arfaethedig yn y Bae.

Bydd rhaid iddyn nhw ailadeiladu’r tŵr dwr eiconig yn gyntaf!


Tipyn o (Y)stad


Mae gan Glasgow Taggart, Caeredin Rebus, Aberystwyth D.I. Noel Bain (Yr Heliwr) a Llundain Jane Tennison. A draw yn nhref porthladd Ystad, Skåne, de Sweden, mae Inspector Kurt Wallander - dyn unig, penstiff, sy’n dioddef diabetes, deiet gwael a diffyg cwsg, ac sy’n ceisio’i orau glas i arddel rhyw fath o berthynas a’i ferch Linda sydd wedi ymuno a’r heddlu. Mae ffrwyth dychymyg y nofelydd hynod lwyddiannus Henning Mankell o Stockholm, bellach wedi’i anfarwoli gan Syr Kenneth Branagh fel y dyn ei hun yng nghyfres BAFTAidd Wallander a ddarlledwyd ar BBC1 y llynedd - a’r newydd da yw bod ail gyfres ar y gweill.

Yn y cyfamser, mae BBC Four, un o’m hoff sianeli, yn dangos cyfres o’r ffilmiau gwreiddiol o Sweden (2005+) gyda Krister Henriksson a
Johanna Sällström, bob nos Lun am 9pm. Gwyliwch da chi, am safon Sgandinafaidd!



Atgyfodi Ianto!


Anghofiwch am ymgyrchoedd achub yr iaith, fforestydd glaw Brasil, y morfilod neu yrfa Gordon Brown. Mae 'na reitiach pethau i boeni amdanyn nhw. Yn sgil tranc diweddar un o gymeriadau poblogaidd Torchwood, mae ffans pybyr/honco bost wedi cychwyn ymgyrch i'w gael yn ol o farw fyw trwy wefan www.saveiantojones.com. Chwarae teg, mae yna gyfle i bob llofnodydd gyfrannu at hoff elusen yr actor Gareth David Lloyd - sy'n golygu fod £1,800 yng nghoffrau Plant mewn Angen hyd yn hyn.


Pwy a wyr beth ddigwyddith. Wedi'r cwbl, os lwyddodd Bobby Ewing i atgyfodi yn y gawod yn Dallas 23 mlynedd yn ol...




Adroddiadau diwedd blwyddyn

Roeddwn i’n arfer cachu plancia 'radeg hon o’r flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Conwy ers talwm. Ffarwelio â blwyddyn academaidd arall gyda chofrodd arbennig gan yr athrawon hoff. Adroddiad ysgol. Cyfnod o bwyso a mesur, dathlu ambell lwyddiant a diawlio gradd ‘D’ am Dwl mewn Maths neu 'E' echrydus mewn Ffiseg. Ac mae’n gyfnod o gnoi cil i’n darlledwyr cenedlaethol hefyd, gyda chyhoeddi adroddiadau blynyddol BBC Cymru ac S4C.





Nid da lle gellir gwell yw neges Cyngor Cynulleidfa Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl i leisio safbwyntiau gwylwyr a gwrandawyr i gorff llywodraethu’r BBC. Er bod Torchwood yn fan cychwyn da, roedd y Cyngor o’r farn bod mynydd o waith i’w wneud eto cyn y gallai’r Bîb frolio fod Cymru’n cael lle haeddiannol ar rwydwaith Prydain gyfan. Cafodd cynhyrchwyr newyddion eu beirniadu’n chwyrn am beidio â chynnwys digon o straeon o Gymru ar brif raglenni newyddion teledu. A-men meddaf i. Petawn i’n Sais, fyddwn i ddim callach fod llywodraethau datganoledig ar waith ar y cyrion Celtaidd, o wylio newyddion y BBC am 6 a 10 yr hwyr. Wythnos diwethaf, roedd sawl stori addysg, gofal yr henoed a’r ffliw moch yn gorffen gyda’r geiriau “…in England”. Hynny yw, straeon am ddatblygiadau a newidiadau polisi perthnasol i drigolion Basingstoke a Burnley yn unig, heb affliw o ddim i’w wneud â gwylwyr Bangor na Ballycastle. Mae’n sefyllfa warthus, fel petaen nhw’n credu bod sodro’r Bonwr Edwards o Langennech wrth ddesg BBC News yn ddigon o gyfraniad Cymreig.

Adroddiad cymysg sydd gan Awdurdod S4C hefyd, dan gadeiryddiaeth John Walter Jones. Yn naturiol, mae’n canu clodydd arlwy feithrin y sianel a gynyddodd o awr i chwe awr a hanner y dydd. Ac mae’n wasanaeth mor llwyddiannus a phwysig fel bod rhieni blinedig yn crefu am weld Cyw ar foreau Sadwrn a Sul hefyd. Trodd 5% yn fwy o wylwyr i ddilyn darllediadau cynhwysfawr Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ond colli tir fu hanes Gŵyl y Faenol. Lwcus bod un ’lenni wedi’i chanslo! Dwi’n cytuno’n llwyr a’r ganmoliaeth i gyfresi ffeithiol caboledig y Sianel, gan gynnwys Yr Afon a Lleisiau’r Rhyfel Mawr; ac yn rhannu’r siom am ddramâu fel Y Pris (“nid oedd y gyfres at ddant pawb”) a chriw cecrus y cymoedd, 2 Dŷ a Ni, a fethodd gyflawni’r nod o ddenu mwy o wylwyr o’r parthau hynny. Ac wrth gyfeirio at yr arbrawf o arallgyfeirio'r hen stejar Noson Lawen i forio ac i lefydd hollolo hurt fel crombil ceudyllau Llechwedd Blaenau Ffestiniog nos Galan, "mae’n deg dweud nad oedd yr arbrawf yn gwbl lwyddiannus". Clywch! Clywch!
Mae'r darn canlynol am sioe sebon dyddiol y Sianel yn ddiddorol a dweud y lleiaf:
"Pobol y Cwm (BBC Cymru) yw un o gonglfeini dyddiol ein gwasanaeth rhaglenni o hyd. Ymddangosodd y gyfres yn gyson ymhlith y rhaglenni a wylwyd fwyaf. O ran gwerthfawrogiad y gynulleidfa, mae’n sgorio’n well na phob rhaglen debyg arall yn Saesneg".
...yn enwedig o gofio'r cwymp syfrdanol eleni.
Ond beth oedd rhaglen fwyaf poblogaidd 2008? Na, nid unrhyw beth gyda Dai Llanilar, ond Y Clwb Rygbi, a ddenodd 356,000 i wylio gornest y Gweilch a’r Sgarlets dros y ’Dolig.

S4/Cais amdani!

Clasuron cerddorol: Sothach Sadyrnol yr 1980au

Mae gen i atgofion melys am gyfresi teledu ar Sadyrnau’r stalwm. Roedd yr 80au’n bla o gyfresi Americanaidd poblogaidd. Rwtsh rhad medd rhai, ond rwtsh cofiadwy a hwyliog dros ben. Yn ogystal â’r ffefrynnau amlwg fel The A Team, Dukes of Hazzard a Wonder Woman, un o’r goreuon i mi’n bersonol oedd CHIPS (1977-1983) - cyfres am Ponch (Erik Estrada - dyna chi enw!) a Jon (Larry Wilcox), dau heddwas a oedd yn rasio ar ol dihirod mewn Corvettes chwim ac osgoi damweiniau dros ben llestri efo loris llawn ieir ar draffyrdd dramatig Califfornia. Anghofiwch am yr actio giami a’r ffasiynau gwaeth, mae’r arwyddgan yn glasur ffynci-brenin-disgo’r 70au! A dwi wedi gweld DVD o'r gyfres gyntaf ar silffoedd HMV…





Cyfres arall sy’n dwyn i gof Sadyrnau fy mhlentyndod ydi T.J. Hooker (1982-85) gyda’r enwog William Shatner (Captain Kirk Star Trek) fel sarjant yr heddlu a oedd yn chwifio’i reiffl a neidio lot ar fonet ceir/hongian ar awyrennau i ddal dihirod drwg L.A – gyda chymorth yr hyfryd Heather Locklear a aeth ymlaen i bethau gorchwych-o-waeth fel Dynasty. Unwaith eto, mae’r credits agoriadol yn nodweddiadol o gyfresi campus yr 80au – ac mae ’na son am fersiwn ffilm hyd yn oed!


Ta ta Torchwood?




Dwi’n foi reit draddodiadol ar y Sul. Mae crefydda wedi hen golli’i hapêl, ac yn fwy nag erioed bellach ers iddyn Nhw benderfynu cau capel bach Carmel. Ond mae’n dal yn ddiwrnod o seibiant, a Radio Cymru ymlaen fwy neu lai drwy’r dydd - pan dwi’n saff o osgoi’r Cymraeg bratiog a’r sothach arferol gyda seiniau a selebs Eingl-Americanaidd. Mae rhaglen sgwrsio arbennig Beti a’i Phobl yn hen ffefryn a allai drosglwyddo’n hawdd i deledu, heb son am fod yn rhad i Sianel ddarbodus ei chynhyrchu. Stiwdio fach, bwrdd a dwy gadair gyfforddus, ac ambell glip o’r gorffennol. Fersiwn well, fwy sylweddol, o’r gyfres Cofio efallai. Mae Beti George yn holwraig tan gamp, ac yn barod i fentro gofyn cwestiynau anodd a phersonol iawn ar brydiau, o gymharu â steil fwy arwynebol Heledd Cynwal. Un o’m hoff actorion, Ifan Huw Dafydd, oedd gwestai’r wythnos hon - enillydd gwobr BAFTA eleni am ei bortread o’r ffarmwr styfnig yn Martha Jac a Sianco. Soniodd am ei rannau cofiadwy eraill fel Pete Con Passionate a Dic Deryn, un o gymeriadau chwedlonol Cwmderi yn y dyddiau da hynny o ganmil a mwy o wylwyr rheolaidd. A chyhoeddodd mai fe fydd tad Nessa yng nghyfres nesaf - ac olaf - o Gavin and Stacey. Tidy!

Actor arall sydd bob amser yn plesio ydy Eve Myles, a serennodd fel Gwen Cooper yn Torchwood: Children of Earth yn nosweithiol wythnos diwethaf. Roeddwn i braidd yn nerfus cyn gwylio ffrwyth llafur Russell T Davies. A fyddai’r gwylwyr yn cymryd ati ar brif sianel y Bîb? A oedd perygl iddyn nhw ’laru gormod ar John Barrowman (Captain Jack), a gyhuddwyd o ymddangos ar ormod o raglenni’r BBC yn ddiweddar? A fyddai enw da Adran Ddrama Llandaf yn saff? Doedd dim lle i boeni o gwbl mewn gwirionedd. Roeddwn i, a miliynau eraill, wedi’n gwefreiddio o’r dechrau i’r diwedd, mewn cyfres tipyn mwy aeddfed a difrifol na’r rhai blaenorol a wfftiwyd fel rhaglen i blant gydag iaith anweddus. Roedd hi’n dipyn mwy tywyll na’r disgwyl, ac yn well o’r herwydd, gydag islais cyfoes iawn o ddiffyg ffydd y werin yn y Llywodraeth. Roedd y golygfeydd gofidus o’r milwyr yn cipio plant o’r ysgolion a’r strydoedd yn dwyn i gof erchylltra’r Natsïaid, a’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn llwyddo i gynyddu’r tensiwn yn wych gyda marwolaeth ddisymwth un o’r prif gymeriadau, Ianto Jones. Ac mae hynny, a’r ffaith fod pencadlys Torchwood (yng nghrombil Bae Caerdydd) wedi’i chwalu’n chwilfriw gan fom, yn ategu’r sïon mai hon oedd y gyfres olaf. Byddai hynny’n bechod mawr, yn enwedig o gofio fod rhyw 6 miliwn wedi troi i wylio pob pennod - tipyn o gamp am gyfres ffugwyddonol ganol haf.

O leiaf caiff Gwen/Eve Myles seibiant i fagu teulu am y tro.






Bwrlwm bro!


Siwpyr Cothi a Wilias ar wib rownd Cymru


Ym 1284, cynhaliodd y cythraul Edward y Cyntaf dwrnamaint arbennig yn Nefyn i ddathlu’i oruchafiaeth ar Gymru, yn ôl Iolo Williams ar S4C wythnos diwethaf. Byddai llawer yn dadlau fod y rhan hudolus hon o Lŷn yn lle chwarae i Saeson mawr a mân o hyd. Syndod, felly, oedd cwrdd â chymaint o Gymry lleol gyda Iolo a Shân Cothi yn ail raglen Bro (Telesgôp), rhan o thema ‘Crwydro Cymru’ y Sianel yr haf hwn. Os crwydro hefyd. Roeddwn i allan o wynt yn lân wrth wylio’r ddau gyflwynydd yn carlamu o un lle i’r llall, a braidd yn chwil wrth inni wibio fel gwylanod gyda chymorth graffeg googlemap-aidd. Roedd digonedd o gymeriadau a straeon diddorol, o’r dyn busnes ifanc â’i fryd ar agor cadwyn o siopau bwyd lleol i arlunwraig ym Morfa Nefyn a physgotwyr Porthdinllaen. Bechod felly iddyn nhw dorri sawl sgwrs yn ei flas, a bod y cyfan yn debycach i eitemau Wedi 7 wedi’u gludo’n sownd mewn rhaglen hanner awr. Colli cyfle braidd, gan fod y ddau gyflwynydd mor naturiol braf o flaen y camera, a’r dynion yn amlwg wrth eu boddau’n cellwair â Shân Cothi.

Wedi hanner awr wyllt, roedd hi’n braf ymuno â’r cyflwynydd dow-dow Dewi Llwyd yn Pawb a’i Farn o Washington (BBC Cymru) a phanel o enwogion fel y Prif Weinidog Rhodri Morgan ac rhyw ddau o Gymry America. Rhyw drafodaeth digon difflach a gafwyd, gyda phawb yn hapus-gytûn â chyfraniad Cymru i Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian a chyfraniad Obama i’r byd hyd yma. Yr unig uchafbwynt oedd gweld wyneb enwog o’r gorffennol yn y gynulleidfa, y gantores Iris Williams, a ofynnodd un o’r cwestiynau arwynebol, anghofiedig, hynny sy’n cloi pob rhaglen.
Trwy lwc, fe ddeffrais mewn pryd i weld wyneb arall o’r gorffennol, Amanda Protheroe Thomas - Ms Bicini S4C ar un adeg - ar raglen wleidyddol ysgafn CF99. Wrth drafod deugain mlynedd wedi’r Arwisgo, dywedodd y benfelen fod Carlo lawn mor bwysig wrth hyrwyddo Cymru heddiw. Rhydd i bawb ei farn, wrth gwrs. A dyma sylwi ar deitl o dan ei henw ar y sgrin, sef Llysgennad Ymddiriedolaeth y Tywysog. Ond gan Vaughan Roderick, un o’n gohebwyr gwleidyddol mwyaf praff (trowch i’w flog ar wefan BBC Cymru) y cafwyd y sylw gorau, a’r fath newid a fu ers syrcas Castell Caernarfon - fel pwy ym 1969, fyddai wedi rhagweld y byddai plaid George Thomas a phlaid Dafydd Iwan yn rhannu gwely wrth lywodraethu Cymru yn 2009?

Hiraeth yr haf


Mae’n swyddogol. Mae’r haf wedi cyrraedd. Mae’n dymor Wimbledon, arogl barbeciws yn yr awyr, a’r haul yn llai swil na’r llynedd. Ond yr arwydd pennaf yw arlwy’r bocs bach. Neu ddiffyg arlwy. Oherwydd dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae comisiynwyr a chynhyrchwyr teledu’n gorfeddian ar draeth yn Dubai a’n gadael ni feidrolion dlawd adref i fwynhau’r un hen bethau ar y bocs bach. Ac mae’n debyg y cawn ni yn oed mwy na’r arfer ar S4C eleni, wrth i’r Dirwasgiad Mawr roi taw ar Seshus Mawr Dolgellau a'r Faenol. O leiaf bydd gennym ‘uchafbwyntiau’ Eisteddfod yr Urdd a Phrifwyl y Bala. A Martha, Jac a Sianco (enillydd chwe gwobr BAFTA Cymru, wyddoch chi?!). Iawn, mae’r ffilm dywyll hon yn werth pob cwpan aur, clod a bri a ddaw i’w rhan, ond digon yw digon. Dyna farn glir pobl Llannerchymedd wrth Gadeirydd y Sianel, John Walter Jones, ar Hawl i Holi Radio Cymru wythnos diwethaf. Ond efallai ei bod hi’n bryd inni fod yn realistig a derbyn mai dyma ragflas o’r dyfodol digidol.


Wedi dweud hynny, MAE rhai pethau’n werth eu hailddarlledu. Ffilm Ibiza! Ibiza! (1986) er enghraifft, gyda Glenys a Rhisiart, Delyth a Bethan ‘Sdiwpid Piwpid’, Enfys a Lavinia – creadigaethau gwych Caryl Parry Jones. Cawsom glip sydyn ohoni ar raglen Cofio (ITV Cymru) nos Lun diwethaf, wrth i Caryl hel atgofion gyda Heledd Cynwal ac archifau HTV. Efallai bod Croes Cwrlwys mewn cawlach y dyddiau hyn, ond diawch, mae gynnon nhw ambell glasur o’r gorffennol. Gwelsom yr anfarwol Ricky Hoyw (Dewi Pws) yn mwrdro cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon Nadoligaidd, a Spice Girls Cymru (Sidan) ym 1974. A chan fod Caryl yn un o genod y gogledd-ddwyrain, dyna esgus i ddangos yr arch-gwynwr Gwilym Owen yn cyflwyno adroddiad arbennig o’r Rhyl ym 1965 ynglŷn â diffyg Cymreictod tre’r “bingo, cwrw a tsips”. Ond yng nghanol yr hwyl a’r hiraeth braf, cafwyd rhyw bum munud difrifol wrth i Caryl fwrw bol a thrafod problemau clefyd y croen. Cyfaddefodd iddi gadw draw o Brifwyl Eryri bedair blynedd yn ôl pan roedd sgil-effeithiau’r steroid ar ei waethaf, er mwyn osgoi cwestiynau’r cyhoedd. Y wyneb cyhoeddus yn gorfod cuddio, felly. Ond buan yr anghofiwyd am hen broblemau diflas bywyd, wrth i Heledd Cynwal ddangos diffyg chwaeth yr 80au ar ei orau gyda chlip fideo ‘Shampŵ’ gan Bando.

Dyna ddigon o wylio am y tro. Mae’n bryd diffodd y sét deledu a manteisio ar dywydd siorts a sbectol haul!


Dinasyddion


Rhyw berthynas digon oriog sydd gen i â’r brifddinas. Ar un llaw, dwi wrth fy modd gyda phensaernïaeth odidog y ganolfan ddinesig, y parciau a’r llwybrau braf ar lan afon Taf, awyrgylch heb ei ail ar ddiwrnod gêm ryngwladol, a’r Gymraeg mewn awyrgylch gosmopolitaidd. Ar y llaw arall, mae’r tagfeydd, fflatiau undonog y Bae, Heol Eglwys Fair ar nos Sadwrn, ac agwedd rhai o’r Cymry Cymraeg clicaidd yn ddigon i’m hel i fyny’r A470. Rhyw berthynas digon tebyg sydd gen i â’r gyfres ddrama Caerdydd (Fiction Factory) hefyd. ‘Hwrê! ac o’r diwedd’ meddwn i, pan glywais sôn am y gyfres wreiddiol. Ymgais i bortreadu hwyl a hoen y dinasyddion ifanc am y tro cyntaf ers dyddiau Dinas - ond gydag actio a setiau gwell, gobeithio. Cofio Paul Ambrose?


Roedd pethau’n argoeli’n dda…tan iddi fynd ar drywydd Brookside, a chladdu un o’r cymeriadau dan batio un o’r dywededig fflatiau. Ac roedd y gyfres ddiwethaf yn trio’n llawer rhy galed i godi gwrychyn criw Taro’r Post gyda golygfeydd mewn clybiau hoyw a chyfryngis-a-gwleidyddion yn ffeirio’r cwrw am cocên. A phwy all anghofio’r drwgenwog Sex and the Senedd, pan ffilmiwyd golygfa gnychu yn nhŷ bach y Cynulliad yn ddiarwybod i’r awdurdodau? Y gwir amdani yw bod yr eiconig This Life wedi gwneud rhywbeth tebyg i gyd o’r blaen, ac yn fwy llwyddiannus, dros ddegawd yn ôl.

Dyddiau da efo Warren, Miles, Anna, Milly ac Egg

Ond dyma benderfynu rhoi hen ragfarnau o’r neilltu, a throi i wylio’r bedwaredd gyfres nos Sul diwethaf. A chan na wnes i ganolbwyntio rhyw lawer gyda’r gyfres ddiwethaf, roeddwn i’n dra diolchgar o’r crynodeb ar ddechrau hon a agorodd gyda Peter Marshall (Ryland Teifi) yn gadael yr ysbyty ar ôl pwl o orffwylledd gyda chyllell, ac yn syth i groeso gorawyddus Ceri - a oedd yn ddigon i’w hel yn ôl i seilam. Mae Osian a Kate yn cydfyw’n hapus (tan ddaw hi i wybod am ei arferion gamblo ar-lein efallai), ac Ems wedi ffeindio ffrind newydd yn Sara, athrawes gelf (braf gweld Lauren Phillips yn gwenu unwaith eto ar ôl bod trwy’r felin fel Kelly Pobol y Cwm). Mae Mike druan ar goll yn lân ar ôl i Elen adael am borfeydd brasach Llundain, a Leah wirion o glên yn breuddwydio am fyw’n deulu bach dedwydd efo Steven James. Ond trodd ei breuddwydion yn hunllef ar ôl cwrdd â phlentyn siawns Steven wrth fynedfa’r ysbytu. A daeth Osian ei fab i’r fei, i afael yn llaw ei gyn-gariad yn y ward mamolaeth.

Dechrau digon addawol felly, dan gyfarwyddyd medrus Ed Thomas. Hynny heb yr un olygfa diangen o floneg gwyn mewn gwely chwyslyd.