Iechyd da

Mae’n affwysol o anodd cadw’n heini yn ein hoes eisteddog ni. Mae’r prydau popdy ping mor beryglus o gyfleus ar ôl diwrnod hir o waith, a’r car yn llawer brafiach na cherdded ar noson wlyb a thywyll i’r siop gornel. A hyd yn oed pan fo rhywun yn chwysu chwartiau i losgi’r bloneg, mae yna demtasiwn o bob cwr. Mae arogleuon a goleuadau neon tri bwyty sothach yn sgrechian am fy sylw wrth i mi adael y gampfa leol. Damia nhw. A rhwng lefelau gordewdra, smygu a merched beichiog yn eu harddegau, 'da ni’r Cymry’n bencampwyr byd! Yn ôl adroddiad diweddar ar lefelau gordewdra’r DU, mae 4 o’r 5 ardal waethaf yn hen gymoedd difreintiedig y de. Beth yw’r ateb felly? Strategaeth iechyd genedlaethol hirwyntog arall gan ein Gweinidog Iechyd sy'n ddynes ddigon nobl ei hun a dweud y lleiaf? Naci siŵr iawn. Yr ateb ydi IOLO WILLIAMS, gwaredwr popeth iach ac ecogyfeillgar ar S4C. Y tro hwn, mae’r cyflwynydd brwdfrydig o Faldwyn yn ceisio annog tri theulu i newid eu ffyrdd afiach o fyw yn Cwm Sâl Cwm Iach (Green Bay).

Bob wythnos, mae’r criw o Dreorci, Glyn-nedd a Phen-y-graig yn cyflawni tasgau gwahanol i ennill gwobrau. Ac er gwaetha’r hysbyseb amlwg i’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a sgript slafaidd o’r Saesneg (“dal un o’r teuluoedd allan”), mae digonedd o hwyl i’w gael. Her yr wythnos hon yw coginio fersiynau iachach o hoff brydau’r tri theulu - cibabs a korma cyw iâr - gyda chymorth Alun Williams a’r cogydd Anthony Stwffio Evans, cyn gorffen gyda ras droli bwydydd iach mewn archfarchnad leol. Buasai’n well gen i gael mwy o hanes y teuluoedd eu hunain, gan fod y plant yn ddigon o gymeriadau i gynnal rhaglen gyfan heb help Iolo Williams. Mwy o’r cyfranwyr a llai o’r cyflwynydd, felly, yn enwedig golygfeydd dibwys braidd ohono’n dysgu syrffio ym Mae Abertawe. Unrhyw esgus i’w roi mewn siwt nofio ar gyfer y lêdis ac ambell fachan.

Draw ar y BBC, mae cyfres ddrama newydd wedi’i gosod mewn ysbyty - eto fyth! Yr unig wahaniaeth yw bod Crash (8.30 nos Fercher) yn gynnyrch BBC Wales, ac yn dilyn meddygon newydd raddedig â phwysau’r NHS ar eu ’sgwyddau ifanc. Gyda chymysgedd o wynebau newydd a’r hen stejars profiadol fel Nia Roberts a Mark Lewis Jones (fel y diawl drwg arferol sy'n hel merched), mae’n llifo’n dda ac yn edrych yn dda. Dim byd syfrdanol o wych, ond iawn i ladd amser am hanner awr facb bob wythnos. Ond pam, o pam, cael gwared ar un o’r cymeriadau gorau ar ddiwedd y bennod waedlyd gyntaf?

Crash and burn? Cath (Kezia Burrows), Ameer (Simon Rivers), Rhian (Elin Philips), y diweddar Rob (Gareth Pam fi Duw? Jewell) a Simon (Gareth Caerdydd Milton).





Tywysog a doniau Lloegr

Ar ôl gwneud smonach go iawn o bethau gyda Framed, mae cyfryngis Llundain am fentro dros Bont Hafren cyn hir i ffilmio drama 90 munud o’r enw Royal Wedding gan Abi Morgan gyfer BBC Two. Drama sy’n canolbwyntio ar deulu Caddock mewn pentref sy’n dod ynghyd i ddathlu priodas Carlo a Di yn ystod haf 1981, yn nyddiau cynnar, hunllefus, Thatcheriaeth. Swnio’n dda. Beth sydd ddim cweit mor dda yw’r actorion arfaethedig. Jodie Whittaker, Darren Boyd, y comediwr Kevin Bishop, Rebekah Staton… Saeson glân gloyw. Ddim byd yn erbyn Saeson wrth gwrs (ahem) ond beth ddiawl ddigwyddodd i actorion dawnus Cymru? Yr unig ‘frodor’ wela i yw Alun Raglan (Belonging).
Fel y Prins, mae'r thespians o Loegr yn cael eu cludo dros Glawdd Offa i ddangos i amaturiaid fan hyn sut mae'i gwneud hi go iawn.

Y Cleddyf - beth yw'r pwynt?!



“Mae stori dda yn hanfodol ym mhob maes a dyma yw sail rhaglenni’r hydref. Mae ’na arlwy gref a digon o amrywiaeth, gyda’r pwyslais ar gynnig cyfresi diffiniol ac adloniannol yn ystod yr oriau brig - ffenestr siop y Sianel.”

Dyna froliant Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4/C, mewn datganiad sy'n darllen fel cyfieithiad. Pwy goblyn sy'n dweud "adloniannol" beth bynnag?

A beth goblyn ydi diben Y Cleddyf gyda John Ogwen? Neithiwr, cefais gip sydyn arni i weld John Ogwen yn traethu mewn rhyw gae heb sylweddoli fod yna rhyw ddynion mewn gwisg ffansi yn chwarae sowldiwrs y tu ôl iddo; rent’n’experts fel Hywel Teifi a Dr Sioned yn ein diflasu eto fyth am y Mabinogi a’r Chwedl Arthuraidd; Ioan Gruffudd yn eistedd wrth bwll nofio yn Hollywood Hills wrth drio’i orau glas i beidio ag ymddangos mor smyg ac iach o frown fel cneuen wrth drafod ei rol actio anghofiedig fel Lancelot; John Ogwen yn sefyll mewn rhyw gae gwahanol efo marchogwrs mewn gwisg ffansi bla bla bla…

Teitl gachu sy’n ceisio efelychu’r arferiad Saesneg o gynnwys Griff Reez-Jones/ Stephen Fry/Piers Morgan; a chyfres gachlyd. Pwy mewn difrif calon ’sgin ddiddordeb mewn hanes rhyw gyllell boced beth bynnag? Beth nesaf? Y Rhaw gyda Iolo Williams? Y Bladur gyda Dai Jones? Y Wardrob gyda Nia Parry?

Diolch byth fod gen i gopi o’r nofel A Quiet Belief in Angels gan R J Ellory wrth law.
DYNA be’ di stori dda, Ms Gibson.

Boddwch hi!

Dwi'n sylwi fod Anne Robinson mor annwyl ag erioed tuag aton ni’r Cymry.

Ydyn nhw’n dal i foddi gwrachod à la Stafell Ddirgel ’dwch?

On'd oedden nhw'n ddyddie da?


Mae ’na berl o ffilm gartref o’r pumdegau yn ein teulu ni. Ffilm o mam a’i chwiorydd yng ngharnifal Bryn Pydew ger Llandudno. Ynddi, mae’r haul yn tywynnu fel hafau hirfelyn tesog ers talwm, a genod Ty’n y Bryn yn cadw reiat yn eu ffrogiau tywysogesau bach. Byddai’n destun perffaith i brosiect diweddara’r bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn, Popeth ar Ffilm (Cwmni Da) i ddangos y newid a fu - o bentref gwledig a Chymraeg i gynefin cymudwyr Swydd Gaer a phobl ddŵad y Costa Geriatrica.

Mae’n syniad diddorol, gydag Ifor ap Glyn yn dangos ffilm archif o ardal arbennig bob wythnos, ac yn mynd ati i greu ffilm fer newydd gyda chenhedlaeth newydd. A does dim prinder deunyddiau, gyda rhyw 10,000 o dapiau dan ofal Archif Ffilm a Sain Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Ardal wledig Ceredigion, oedd dan sylw’r rhaglen gyntaf, a ffilm o’r Farmers’ Education Centre, Felinfach yn y 1950au. Ffilm hynod odidog ac anwleidyddol gywir lle’r oedd bechgyn siwtiog yn trwsio Fordsons a Ffyrgis Bach a’r merched ifanc yn pobi am y gorau yng ngheginau’r coleg. Roedd yr hen genhedlaeth yn gwenu’n hiraethus braf o weld y ffilm heddiw, a chriw’r Clwb Ffermwyr Ifanc yn chwerthin am ben swyddogaethau hen ffasiwn yr oes ddu a gwyn. Felly, dyma benderfynu fynd ati i wyrdroi’r ddelwedd yn llwyr a dangos cefn gwlad 2009 – gydag Eifiona Davies yn frwd dros y diwydiant, ac yn helpu i odro’r da a bwydo’r moch ar y fferm deuluol, ac Emyr Evans yn actor sebon rhan-amser. Bechod mai dim ond cipolwg yn unig a gawsom o’r bwrlwm diwylliannol hyn, o griw opera sebon ‘Bontlwyd’ ar Radio Ceredigion i gystadleuaeth panto’r Ffermwyr Ifanc. A bechod na welsom fwy o’r ffilm orffenedig – holl bwrpas y rhaglen am wn i.

Mae rhaglenni’r dyfodol yn swnio’n tipyn fwy addawol - yn enwedig ffilm o ardal Senghennydd, Caerffili, sy’n adrodd hanes adfywiad a gobaith newydd i’r Gymraeg ar ôl colli tir a chymaint o fywydau yn nhrychineb glofaol 1913.

Gyda llaw, fe allai Ifor ap Glyn atgyfodi Popeth yn Gymraeg eto, a chanolbwyntio ar Lord Dafydd Êl a Chomisiwn y Cynulliad Mici Mows felltith sy'n mynnu eu bod uwchlaw deddf iaith y wlad...

Ond mae peryg fod S4C yn ymddiddori gormod yn yr archifau, wrth ddarlledu’r Awr Aur bob noson o’r wythnos rhwng 6 a 7pm? Yn ôl y broliant i’r wasg, mae’n cynnig cyfle inni “fwynhau detholiad o glasuron o archif gyfoethog S4C”. Neu ‘Awr Ailddarlledu Rhad’ i chi a fi. Beth fydd hi felly, wylwyr? Lucy Owen yn hel straeon heddiw ar Wales Today, neu Lyn Ebenezer yn Hel Straeon tua 1986?

Ff****d!?!


Sdicia at 'Torchwood', Eve fach

Nos Lun Gŵyl Banc ein-jôc-o-haf, fe wnes i wastraffu chwarter awr llwyr o 'mywyd. Gallai pethau fod lot gwaeth. 'Swn i wedi gallu gwastraffu 90 munud o’m heinioes. Achos roedd chwarter awr o’r gachbeth Framed (BBC1) gydag Eve Myles a Trevor Eve yn ddigon i’w stumogi. Yn ôl broliant y Bîb, addasiad o lyfr poblogaidd i blant gan Frank Cottrell Boyce (na, dwi fawr callach chwaith) oedd y ddrama deuluol hon - am lwythi o drysorau National Gallery Llundain yn cael eu storio’n saff yng nghrombil hen chwarel segur yn Eryri (fel digwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd) ac ymgais hogyn hoffus o’r enw Dylan i gadw gorsaf betrol y teulu ar agor ym mhentref Manod. Syniad da… ar bapur o leiaf. Ar y sgrin, roedd hon fel Carry on Up the Valleys - heb y laffs. Ac mae’n debyg fod rhyw ben bach o gyfarwyddwr/cynhyrchydd o Lundain wedi drysu rhwng Blaenau Gwent a Blaenau Ffestiniog wrth ddewis llond ceudwll o hwntws fel Eve Myles, Robert Pugh, Margaret John a Gwyneth Petty i actio gogs - a’r rheiny’n ecsentrig (h.y. od a thwp) ar y naw, a dim ond yn siarad Cymraeg fel iaith-gudd yng ngwydd Saeson. A chyda “jôcs” am ddefaid i goroni’r cwbl, roedd hon yn rhoi peltan go hegar a dos o realiti i unrhyw un a gredai fod dramâu’r rhwydwaith o Gymru wedi cymryd camau breision ers dyddiau du, ystrydebol, yr 80au a’r 90au, er gwaethaf rwtsh hunanfodlon Russell T Dafisiaid a Julie Gardners y byd.

Beth nesaf? District Nurse – The Next Generation neu Dai Hard neu Tiger Bay II? A’m gwaredo...