Ci tawel...



Mae slot naw nos Sul yn sanctaidd i bawb sy’n sgit am ddrama dda y dyddiau hyn. Rhwng Spooks ar BBC1, Downton Abbey ar ITV, a Gwaith/Cartref ar S4C, mae peiriannau recordio yn boeth ar sawl aelwyd y dyddiau hyn, dybwn i. Daeth anturiaethau ysbiwyr y Bîb i ben wythnos diwethaf, ar ôl deg cyfres o anturiaethau James Bond-aidd yn achub Llundain Fawr rhag ymosodiadau terfysgol wythnosol o du Iran, Rwsia neu hyd yn oed eu staff eu hunain. Lol botes ond lot o sbort a dihangfa lwyr cyn wythnos waith arall. Er nad oes gen i daten o ddiddordeb mewn drama gyfnod am drigolion a gweithwyr tŷ bonedd yn Lloegr adeg y Rhyfel Mawr, mae ITV wedi synnu’r byd a’r betws gyda chyfres sebon sy’n diferu o safon a’r Fonesig Maggie Smith. Ac yn drewi o bres. Gyda chyllideb o bron i filiwn o bunnoedd y bennod, all cynhyrchwyr dramâu Cymraeg ond ochneidio a breuddwydio am y fath bres. ’Sgwn i a wnaiff Prif Weithredwr newydd y Sianel ddenu ei gysylltiadau Americanaidd i wario’u doleri mewn drama Gymraeg?

Roedd dramâu’r oes o’r blaen yn llwyddiant ysgubol ar S4C yn y nawdegau, o addasiadau o glasuron Kate Roberts, Marion Eames a T Rowland Hughes, i sagas Ffynnon Oer gan Manon Rhys. Berig fod capiau stabl, ffrogiau staes a siarabangau ddechrau’r ugeinfed ganrif yn hel llwch yng nghrombil Parc Tŷ Glas, wrth i S4C ganolbwyntio ar y Gymru gyfoes bellach rhwng meddygon chwantus y gorllewin ac athrawon gwaedlyd y brifddinas. Ydy, mae castiau diweddaraf Ysgol Bro Taf wedi’n synnu ni i gyd. Dewch ’laen, dywedwch y gwir. Go brin fod unrhyw un ohonoch wedi dychmygu y byddai’r llo llywaeth Aneurin wedi gwneud hynna yn y bennod ddiwethaf. Er, efallai fod arddangosfa gelf fodern ddiflas yn ddigon i droi unrhyw un yn honco gyda chyllell.

A go brin y byddem wedi dychmygu y byddai Gwaith/Cartref yn datblygu mor dywyll ar ôl pennod agoriadol digon smala a bron fel Carry On ’Stafell Athrawon, yn enwedig yr athrawes ymarfer corff ystrydebol sydd eisiau slap ers talwm. Bet greulon Becca Matthews a gwawdio cyson y plant oherwydd ei atal dweud, a arweiniodd Aneurin (Arwyn Jones) ar chwâl - gan arthio ar Emyr druan nes iddo ddychryn, llithro a tharo’i ben yn angheuol ar y patio. Heddwch i lwch y pennaeth Cymraeg hunangyfiawn, ond o leiaf fe gawsom ein sbario rhag golygfeydd caru posibl ag Eddie Bytler.

Yng nghanol yr och a gwae dramatig, roedd is-stori ddoniol yn ymwneud ag ymweliad swyddog o’r Cynulliad â phrosiect amgylcheddol yr ysgol. Cawsom olygfa wych o’r Pennaeth a’r swyddog anabl yn sefyll mewn tywyllwch wrth i’r lifft dorri, a hithau wedyn yn fflyrtian fel diawl â Simon. Mae stumiau’r actor Rhodri Evan yn gymysgedd comig o weniaith ac arswyd pur wrth geisio cadw trefn ar ei staff yn fwy na’r plant. Er bod ambell ddisgybl fel Nadine a Jac yn cael sylw, dydyn nhw ddim yn or-amlwg fel yng nghyfres uffernol Waterloo Road y BBC.

Croeso mawr i wyneb cyfarwydd o’r bennod gyntaf nos Sul nesaf, sy’n dychwelyd gyda hyder a Merc newydd. Ond go brin y caiff siwrnai rwydd gan gynhyrchwyr y gyfres annisgwyl, ddifyr, hon.

Dim trasiedi




Wel, dyna ni. Mae’r freuddwyd ar ben. Y gobaith a’r garwriaeth fawr wedi chwythu’i phlwc, a’r holl groesi bysedd am wythnosau yn ofer. Ond dyna ddigon am briodas Meic ac Anita Pobol y Cwm. Mae’r Gêm Fawr anenwog honno fore Sadwrn diwethaf yn dal i frifo a hawlio sylw’r wasg a’r cyfryngau, gweplyfr a’r trydarfyd. Tra’r oedd Francois Pienaar, cyn gapten y Springboks ac un o gyfranwyr Rugby World Cup 2011 ITV yn gandryll gyda’r cerdyn coch, roedd Robert Jones, ein cyn-gapten ni yn cytuno â chosb y dacl gwaywffon mewn cyfweliad â Radio 5 Live. Ond mae un peth yn bendant. Dwi’n falch fod y dwli drosodd. Na, nid ymdrech lew gŵyr Gatland, rhag ofn i mi gael negeseuon bygythiol gan yr FWA – Free Warburton Army – ond ffug-gefnogaeth y Saeson. O David Cameron yn chwifio’r ddraig goch uwchben 10 Downing Street i olygyddion yr Independent a’r Guardian a benderfynodd fod Cymru’n cŵl unwaith eto, roedd yr ymateb yn chwerthinllyd a nawddoglyd ar y naw. Ddyddiau’n ddiweddarach, rydyn ni’n gollwrs sâl meddai’r Saeson hynny a ymatebodd i erthyglau’r wasg ar-lein. Ogi blydi ogi.

Roedd y cyfan yn esgus i’r papurau Sul Llundeinig fel y People a’r Mail on Sunday ymosod ar yr hen lyffantod ddiawl ’na ar ôl deall bod y reff Alain Rolland yn fab i Ffrancwr. Dewisais osgoi hysteria papur Sul “cenedlaethol” Caerdydd hefyd, a chael llawer mwy o flas ar golofnau Dylan Cleaver (enw da!) yn fersiwn ar-lein y New Zealand Herald. Ond yn ôl i amser brecwast ddydd Sadwrn diwethaf pan roedd popeth yn bosibl a’r Bod Mawr yn Gymro, pan fues i’n neidio rhwng S4C ac ITV Wales i weld yr ymateb cyn yr anthemau. Llwyddodd Delyth Morgan i holi Aelod Cynulliad Môn yn Eden Park (dim jôcs am wasanaeth Ieuan Air i Auckland, diolch yn fawr iawn), tra’r oedd Hannah Thomas yng nghanol 66,000 o Gymry gwallgof yn Stadiwm anhygoel y Mileniwm ar ITV. Ar ôl y chwiban olaf, fe roddodd hi gyfle i Ffrancwr buddugoliaethus ddweud gair sydyn er ei bod yn edrych fel petai awydd rhoi swadan iddo gyda’r meic. Tra mai S4C biau’r sylwebwyr gorau, criw Croes Cwrlwys lwyddodd i gyfleu awyrgylch yr holl dwrnamaint i mi, gan anfon gohebwyr i lefydd mor amrywiol â chlybiau rygbi Dinbych a Hendy-gwyn, a thrigolion Parnell ger Auckland a beintiodd eu tref yn goch ar ôl mabwysiadu Cymru fel eu hail dîm.

Yn y cyfamser, mae ’na un gêm fach ar ôl bore fory. Pob lwc. Ond gadewch inni gallio. Roedd Arthur Emyr yn llygaid ei le pan ddywedodd mai gêm o rygbi, nid trasiedi, oedd hi wedi’r cwbl. Glofa’r Gleision fis diwethaf – dyna chi drasiedi go iawn.





Aiya Aber Napa


“RHYW! RHEGI! NOETHNI! reit o’r cychwyn cyntaf ar S4C!!” - brawddeg sy’n siwr o wneud i lafnau smotiog yn eu harddegau sgrialu i wylio’r teledu 42 modfedd ym mhreifatrwydd eu llofftydd, ac i Mrs Jones Llanrug stelcio Taro’r Post drennydd. Chwerthin wnes i, gan fod ebychiadau cyhoeddwr y Sianel yn atgoffa rhywun o hysbysebion b-movies echrydus o America’r 1950au (“See Barbaric Beauties!!” “Female Love Slaves!!”).

Nid bod Zanzibar, cyfres ddrama newydd sbon sydd wedi’i gosod mewn bar myfyrwyr y Coleg ger y Lli mor erchyll â hynny. Ddim o bell ffordd. Ond roedd rhywun yn teimlo fel petai’r sgriptwraig yn trio’n rhy galed i godi gwrychyn. Agorodd y sgript gyda’r gair “ff”, a chafwyd sawl golygfa o glecian diodydd a llyncu pils i gyfeiliant tecno ailadroddus - rhag ofn nad oedden ni’n deall bod “bywyd yn barti” i’r criw, chwadal y cyhoeddwr rhaglenni byr ei wynt. A do, fe gawsom ni olygfa o’r dywededig hanci panci yn y pum munud agoriadol, wrth i ddau gariad ifanc ladd amser rhwng dau drên. Fuaswn i ddim yn meiddio â gwneud nymbar tŵ heb sôn am 69 yn nhai bach Arriva Cymru.

Ond cyn cael fy nghyhuddo o fod yn hen swnyn slipars-a-chetyn, roedd hi’n hanner awr fach hwyliog o ddod i ’nabod y cymeriadau newydd sydd wastad i’w groesawu ar S4C. Gan mai criw Rondo sy’n gyfrifol amdani, roeddwn i’n hanner ofni Porthpenwaig arall gyda llond sgrîn o raddedigion Rownd a Rownd a Glanaethwy. Ond na phoener, gan fod y cast ifanc yn ddieithr i fyd teledu ond yn gyfarwydd i bawb a welodd sioe lwyfan Deffro’r Gwanwyn yn gynharach eleni.

Stori Tom Morgan (Owain Gwynn) oedd canolbwynt y bennod agoriadol, sy’n dychwelyd o Wlad Thai ar gyfer priodas ei dad – ond sy’n gorfod aros adref i lywio tafarn y teulu ar ôl i’w dad gael trawiad cyn torri’r gacen. Ac er nad oedd ei gariad Ceri (Lisa Marged) yn hapus ar y naw i ddechrau, fe gynhesodd hi at y syniad ar ôl cael sesh hefo’r bois rygbi gyda mwy o NOETHNI!!. Braf cael drama wedi’i gosod yn Aber hefyd - am y tro cyntaf ers dyddiau Mwy na Phapur Newydd am wn i – gyda chyfres o olygfeydd montage cartwnaidd yn cyflwyno rhai o eiconau’r dref inni. Ond mae’n debyg nad yw’r cynfyfyrwyr go iawn yn hapus, ddim yn adnabod yr Aber sy’n cael ei phortreadu nac erioed wedi cael nosweithiau gwyllt ar Draeth y Gogledd. O diar.

Dylai cyhoeddwr y Sianel rybuddio ni cyn darlledu’r gemau rygbi o bendraw’r byd. Rhywbeth fel “bydd y rhaglen hon yn berig bywyd i’ch nerfau chi” a llinell gymorth i ymdopi â’r hysteria wedyn. Pob clod i griw S4C sy’n rhagori ganmil ar dîm ITV, er gwaetha’r jôcs am Carys Davies, negesydd y stiwdio. A diolch byth am fwy o gwsg cyn y gic gyntaf fore Sadwrn yma…

Merch o'r Sblot



Breninhes y secwins a pherfformwyr drag, primadona sy’n peltio caneuon James Bond - mae’r Fonesig Bassey o Tiger Bay yn enwog amdanyn nhw i gyd. Ac roedd yr elfennau hynny’n rhan o’r ddrama unigol Shirley gan BBC Cymru-Wales ar gyfer rhwydwaith BBC Two nos Fercher diwethaf, fel teyrngedau tebyg y sianel i Kenneth Williams, Hattie Jacques, Enid Blyton a Margaret Thatcher yn y gorffennol. Heblaw am y busnes Tiger Bay ’ma. Prin dwy flynedd dreuliodd Shirley fach yno mewn gwirionedd, fel y dangosodd y golygfeydd agoriadol ohoni hi a’i theulu’n llusgo’u bagiau ac ambell ddodrefnyn i ran arall o’r brifddinas dan gwmwl. Ond mae’r lleoliad chwedlonol gwreiddiol yn swnio’n tipyn gwell a mwy rhamantus na Sblot tydi? Dros 70 munud wedyn, fe’i gwelsom yn ennill swlltyn neu dda yn canu Stormy Weather yn nhafarndai’r gweithwyr lleol cyn bwrw’i swildod mewn clyweliadau yn Llundain fawr, troi’n hen jadan ifanc i’w rheolwr Michael Sullivan gan fynnu côt minc a brecwast siampên, cefnu ar ei baban adref yng Nghaerdydd am oleuadau llachar y West End ac Awstralia, colli rhan yn sioe gerdd Oliver oherwydd lliw ei chroen, a’i phriodas gyntaf byrhoedlog o anaddas. Llwyddodd Ruth Negga i gyfleu cymeriad y gantores i’r dim, wrth berfformio’n geg-grynedig a nadreddu’i breichiau drwy’r awyr, yn ogystal â’r enydau torcalonnus o glywed Sharon ei merch fach yn ei galw’n Auntie Shirley yn sgil y fath bellter a dieithrwch rhyngddynt. Iawn, oce, roedd acen y brif actores Ethiopaidd-Gwyddelig yn gybolfa o Ciardiff, y cymoedd a Las Vegas, ond byddai rhai’n dadlau fod acen y ddynes ei hun yn dipyn o lobsgóws hefyd. Ac roedd ambell wyneb cyfarwydd yn y cefndir - Geraint Todd (Cowbois ac Injans) fel y chauffeur a gludodd gŵr cyntaf Shirley Bassey i’w wely, a Di Botcher (Belonging) a ffrwydrodd ar y sgrîn am ddeg eiliad fel Mrs Morrison o nymbar 47 (ffuglennol am wn i) yn codi cywilydd arni yng ngŵydd y camerâu teledu ar blatfform gorsaf Caerdydd: “Shirley!…you were round my house when you were four years old…came to play with our Jen… and you were that poor you didn’t have no knickers, remember?” Roedd hi’n werth gwylio er mwyn yr olygfa fach honno’n unig.

Porth Teigr ydi enw stiwdios newydd sbon danlli BBC Cymru yn y Bae. Hm. Mi alla’i glywed Saeson yn dweud Port Tiger yn barod. Mae criw Casualty eisoes yn ffilmio yno, a siawns y bydd tîm Pobol y Cwm yn eu dilyn cyn hir – y rheiny fydd ar ôl, hynny yw. Welsoch chi erioed gymaint o gymeriadau’n gadael mewn un bennod nos Wener? Mae Brandon druan eisoes wedi mynd i labro yn y nen (heb Brandi’r ci, gwaetha’r modd), Dai Sgaffalde wedi codi’i fag tŵls mwya’r sydyn at Dic Deryn ei frawd yng Nghorc, Meic Pierce wedi pwdu efo’i briodas ac yn llyfu’i glwyfau ym Môn, ac Yvonne i’r Swistir via celloedd yr heddlu. Ydy, mae’n gyfnod go gythryblus a chyffrous yn y Cwm.




Hitler yn Ffair Llanllyfni

Peth rhyfedd a phersonol iawn ydi hiwmor. Bythefnos yn ôl, roedd Nia Roberts a’i gwesteion ar y radio yn dathlu 30 mlynedd ers cychwyn un o binaclau comedi Prydain. Meddan nhw. Yn bersonol, roedd giamocs Del Boy a Rodney Only Fools and Horses mor ddoniol â chlwy’r marchogion (peils i chi a fi). Roedd Teulu’r Mans ddechrau’r nawdegau hefyd yn wrthun i mi, er bod fy ffrind ysgol ar y pryd, un o hogia’ Dre Llanrwst a oedd fel rheol yn troi’i drwyn ar bopeth Cymraeg, wedi mopio ar berfformiadau gwallgof Emyr Wyn a’r criw. Rhyw dair wythnos yn ôl, anwybyddais raglen gomedi newydd sbon yn slot marwaidd 6.30pm sydd fel arfer wedi’i neilltuo i Catrin, Lyn a Gwyn o’r 80au pell. Er gwaetha’ cyfres o hysbysebion byrion, doedd Dim Byd ddim yn apelio. Roeddwn wedi cymryd mai rhaglen rad-a-chas oedd hi, yn llenwi’r bwlch cyn i Angharad, Siân neu John ddechrau’r noson go iawn am saith. Ond yn ara’ deg a bob yn dipyn, dechreuais amau ’mod i’n colli clasur diolch i ymatebion canmoliaethus ar dafod leferydd a lot fawr o godi bawd ar facebook. Diolch i’r drefn am S4/Clic, a’m gadawodd i wylio tair rhaglen ar y trot.

Rhyw lobsgóws o raglen ydi Dim Byd ar yr olwg gyntaf, gyda’r sgrin yn ymddangos fel dewislen rhaglenni lloeren a rhibidirês o olygfeydd byrion. Ond mae’n glyfar ac yn gweithio ar sawl lefel. Mae’n dychanu ac yn dynwared ein dull difynedd ni o neidio o un sianel i’r llall yn y gobaith prin o ganfod rhywbeth gwerth ei weld. Ac mae teitlau’r rhaglenni niferus yn dychanu rhai go gyfarwydd, o 100 Steddfod Gorau Cymru i Ar ei Iolo a’r Blaned Newydd sy’n amheus o debyg i griw Hacio. Buan y trodd rhaglen chwarter yn hanner awr a mwy wrth i mi rewi’r sgrin er mwyn darllen y teitlau rhaglenni deifiol o greadigol (gweler teitl yr erthygl!). O raglen rasys geffylau Mynd fel Bom o’r archif i Come Dine with Nain lle mae’r hen ddynas yn paldaruo wrth hwrjio brechdanau a chacennau cartref i’w hŵyr, mae bron â chynnig cipolwg hunllefus inni o ddyfodol S4/C dlawd. Y ffefryn o bell ffordd yw Hanes dy Nain, gyda hen wreigan yn hel atgofion am galedi’r oes o’r blaen a’i phrofiad o ddefnyddio youtube ac ofni’r Welsh Not am decstio’n Gymraeg. Sgetsh fach effeithiol sy’n ein hatgoffa ni i beidio â chymryd bob copa walltog gwyn yn ganiataol, na disgwyl clywed hanesion rhyfel yn unig ganddynt. Pob clod i Rose Edwards 85 oed o Frynsiencyn am actio mor naturiol braf, ac i’r cynhyrchwyr am ddefnyddio pobl go iawn yn lle pensiynwraig gyda cherdyn Equity.

Ôl-nodyn i drefnwyr amserlen S4C – da chi, ailddarlledwch y perl o gyfres hon yn hwyrach yn y nos i’r rhelyw ohonom sy’n rhy brysur yn swpera neu’n disgwyl am gyfarchiad Cymraeg y dydd gan Derek Tywydd ar sianel arall.