Dal i fyny




Cyfres achlysurol sy’n cynnig pum peth sy’n werth dal i fyny â nhw, yn fy marn fach ddibwys i. Pethau i roi cynnig arnyn nhw os ydi teli arferol yn sobor o sâl.

Wisting (BBC Four) Does yna dal ddim pluen o eira eto’r gaeaf hwn, ond roedd penodau cynta’r gyfres dditectif hon o Norwy yn llawn lluwchfeydd a chyrff wedi’u dympio mewn hen ffynhonnau. Neis. Ac os nad ydi pethau’n ddigon heriol i William Wisting (Sven Nording), gwr gweddw ac uwchdditectif yn Larvik ar lannau de-ddwyreiniol Norwy, sydd hefyd yn wynebu achos disgybl r’ol carcharu’r llofrudd anghywir – mae ei niwsans o ferch Line (Thea Green Lundberg) yn dychwelyd adre i hel sgandals ar ran un o dabloids Oslo a pheryglu’i hun bob gafael.

Thea Green Lundberg


Gwesty Aduniad (S4C Clic/iPlayer) Mae’r gyfres bresennol newydd orffen, ond yn dal ar gael i’w ffrydio. Anghofiwch am y fformat braidd yn ffals - gwesty moethus ym Môn llawn actorion rhan-amser yn seilio’u hunain ar weinyddion First Dates, a’r rheolwraig lleiaf cynnil ers Sybil Fawlty (“Da chisho tissues rwan does” a “Newyddion da.... da ni ’di darganfod bod gynno chi bedwar brawd ag un chwaer goll... ond ma nhw i gyd di marw”). Y gwesteion sy’n cyfri, ac mae rhai o’r hanesion yn gwbl dorcalonnus - megis y gŵr a’r gwraig o’r Blaenau sy’n daer i ddysgu mwy am eu tadau a’i heglodd hi pan oedden nhw’n blant bach.

Killer Inside: The Mind of Aaron Hernandez (Netflix) Mewn sianel llawn dop o straeon trosedd ffeithiol, mae hon wedi gafael. Hanes trist am seren pêl-droed Americanaidd o dras Puerto Ricaidd, a ymunodd â’r New England Patriots ar gontract $40 miliwn - ond a arestiwyd dan amheuaeth o saethu dyn yn gelain. Mae’r ddogfen yn holi ffrindiau a theulu Hernandez, yn defnyddio lluniau CCTV a chlipiau’r achos llys go iawn, ac yn olrhain ei fagwraeth dymhestlog. Os ydych chi'n sgut am ddogfennau tebyg, mae gan All4 un am ficer ifanc-dan-hyfforddiant aeth ar sbri gwenwyno dau o bobl oedrannus yn Swydd Buckingham, ar ol ennyn cyfeillgarwch a meithrin perthynas afiach efo nhw. Mae'r ffilm awr a hanner Catching a Killer: A Diary from the Grave wir yn codi ias.



Deadwood Fell (All4) Drama ddirdynnol 4 rhan am deulu cyfan sy’n trengi mewn tân yn eu cartref, a’r pwyntio bys cymunedol yn sgil hynny - yn enwedig ar yr unig oroeswr, y meddyg teulu Dr Tom Kendrick (David Tennant). Mae’n actor ysgubol, sy’n gallu dweud cyfrolau â stumiau’n unig wrth ymdrin â themâu anghynnes fel alcoholiaeth, cam-drin meddyliol, torcalon IVF a mwy o affêrs na’ch sioe sebon arferol. Mae wir angen i mi ddechrau gwylio comedis…



King Gary (iPlayer) … ydi hwnnw, am deulu o fildars dosbarth gweithiol sydd wedi gwneud yn dda a symud i swbwrbia dosbarth canol Gogledd Llundain. Tom Davis ydi prif atyniad, fel Gary King â chalon (a chorff) enfawr sy’n trïo gormod i ffitio mewn.



Evans Above!





“All Hollywood wneud acen Gymreig lwyddiannus?” ydi cwestiwn Cymru Fyw ar hyn o bryd.

Na.

Hyn yn sgil hys-bys ffilm ddiweddar Dolittle, a ffilmiwyd ar Bont y Borth ac sy’n cael ei llywio gan Robert “butty” Downey Jr mewn acen sydd wedi ffwndro’r Americanwyr heb sôn am feirniaid-nes-adra. Yn ol pob tebyg, mi gafodd "gymorth" gan yr hyfforddwr lleisiol a’r actor Tim Treloar o Ben-y-bont (na, na fi chwaith). Rhaid piciad i’r pics cyn barnu'n llawn, er bod yr adolygiadau cynnar yn awgrymu nad yr Acen ydi unig smonach y ffilm.


Pont y Borth, Hollywood style


Ac nid Hollywood ydi'r unig ddrwg yn y caws chwaith. Cafwyd penderfyniadau castio uffernol ar deledu Prydain yn ddiweddar, ac mae’r enghreifftiau lu wedi cael hen gormod o sylw. Cyn hir, cawn weld sut fydd yr Awstraliad Toni Collete yn siapio fel Jan Vokes, barmed go iawn o Fforest-fach Abertawe a gafodd lwyddiant anhygoel fel aelod o syndicêt ceffyl rasio’r Grand National ac ysbrydoliaeth ffilm fawr Dream Horse Warner Brothers dan gyfarwyddyd Euros Lyn. Gyda llaw, mae yna gyfweliad hynod ddifyr gyda'r dywededig grefftus Mr Lyn ar raglen Stiwdio Radio Cymru.




Sgwn i hefyd sut hwyl gaiff y darpar-Fond o Swydd Efrog ar bortreadu'r gohebydd ifanc dewr o'r Barri a ddatgelodd erchylltra newyn 'holodomor' yr Wcráin adeg Stalineiddio economi'r 1930au. Mae hanes Gareth Richard Vaughan Jones (1905-1935) wedi 'nghyfareddu erioed ers gwylio ffilm ddogfen S4C flynyddoedd yn ôl (siawns am ailddarllediad?), a dwi'n mawr obeithio y caiff Mr Jones ddangosiad helaeth mewn sinemâu ar hyd a lled y wlad. Yn gynhyrchiad Pwylaidd dan gyfarwyddyd Agnieszka Holland, mae yna bytiau o ddeialog Cymraeg ynddi hefyd ochr yn ochr ag Wcreineg, Saesneg a Rwsieg.



Ond gydag ochenaid enfawr o ryddhad y clywais am gyhoeddiad diweddar ITV am benodi’r llanc o LA-via-Aberbargoed yng nghyfres ddrama arfaethedig The Pembrokeshire Murders. Mini-series yn seiliedig ar achos a llyfr ffeithiol yr uwch dditectif Steve Wilkins (Luke Evans) a Jonathan Hill o ITV Wales (i’w chwarae gan y Gwyddel David Fynn). Cyfres am y llofrudd John Cooper (y cocni gwrth-Gymraeg o Gorseinon, Keith Allen) a laddodd bedwar o bobl ym mhen draw’r gorllewin ddiwedd yr 1980au – ac a gafodd ei ddal yn fuan ar ôl cystadlu ar sioe gwis Bullseye. Ydy, mae bywyd go iawn yn fwy honco na’r dychmygol weithiau.

Jim Bowen a'r llofrudd John Cooper

Y newydd da arall yw mai’r ddeuawd Cymraeg profiadol Mark Evans ac Ed Talfan sy’n cyfarwyddo a chynhyrchu’r gyfres o dair dan nawdd Llywodraeth Bae Caerdydd. Luke Evans, gyda llaw, ydi hyrwyddwyr Croeso Cymru a hysbysebion Chwe Gwlad BBC Wales ar hyn o bryd. Ac mae'n newid braf ar ol cael Mark Lewis Jones (a phob parch) yn actio'r Cymro stoc ym mhob cynhyrchiad Saesneg yn ddiweddar, gan brofi i'r Brits, oes, MAE yna fwy o dalent ar gael yn y parthau hyn.






Bro




Dwi wrth fy modd efo’r radio hwyr bnawn Sul. Amser diawlio-smwddio a meddwl am becynnau bwyd yr wythnos i ddod. Ac yn y cefndir, lleisiau cyfarwydd y weiarles i’m harwain at amser swper. Mae’r awr a hanner o ddiwylliant solet Dei Tomos a’i westeion amrywiol (5.30-7pm) mor gynnes-gyfarwydd â slot tywydd Countryfile ac arwyddgan y gyfres antîcs ’na.



O’r blaen, roedd rhaglen gelfyddydol Stiwdio gyda Nia Roberts yn ei ragflaenu cyn iddi symud i slot fyw nos Lun am chwech (gyda’r bonws ychwanegol o adolygiadau llyfrau rheolaidd Catrin Beard). Roedd dau rifyn gynta’r flwyddyn at fy nant i, gyda chriw hyddysg - Catrin Gerallt, Lowri Cooke, Jon Gower - yn edrych nôl ar oreuon byd drama, llên, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol yn 2019 a blas ar uchafbwyntiau 2020; a’r ail yn rhoi llwyfan i ben bandits pedwar cwmni theatr Cymraeg. Mae’r holl weithgarwch trwy gyfrwng y Gymraeg wir yn codi calon rhywun, ac yn crefu am sylw ar raglen gyffelyb ar S4C. Mae’n hen hen gri, a’r hiraeth am Sioe Gelf yn parhau, ond mae’n amlwg nad ydi comisiynwyr yr Egin eisiau gwybod. Yn wir, mae cyfrwng clywedol Cymraeg yn rhagori ar y gweledol yn hyn o beth. Cafwyd chwip o rifyn diwedd flwyddyn o bodlediadau annibynnol Llwyd Owen, gyda’i gyd-Lantafiad Lowri Cooke yn ymuno ag o i dafoli uchafbwyntiau’r llynedd yn Does dim gair Cymraeg am RANDOM. Chwiliwch amdani drwy Soundcloud, Castbox etc, am sgyrsiau archif hynod ddifyr â Mark ‘Cyrff’, Ffion Dafis, Dylan Ebenezer, Lleuwen Steffan a Manon Ros, Daf Palfrey a Mathew Glyn a llawer mwy. Meddyliwch am Beti a’i Phobl heb gerddoriaeth ond gydag iaith goch. Gyda llaw, trwy Lowri Cooke y clywais y bomshel niwclear nad ydi S4C am ganiatáu ail gyfres o’r hynod wreiddiol Merched Parchus, un o oreuon teledyddol 2019 i lawer, a orffennodd yn 'sgytwol o benagored. Penderfyniad od ar y naw, o gofio’r holl bwyslais Hansh-aidd ar ddarlledu lot ar-lein y dyddiau hyn. Gan fenthyg ebychiadau Llwyd Owen, mae penderfyniadau comisiynu’r Sianel yn ffycin rhwystredig weithiau.

cowbois.com


Ond yn ôl at nosweithiau Sul Radio Cymru, a’r gyfres newydd sy’n llenwi slot pump o’r gloch. Dot Davies, wyneb cyfarwydd y Byd a’r Bedwar, llais Wimbledon a rygbi a chyflwynydd Y Fro Gymraeg. Wedi positifrwydd y rhaglenni uchod, a’r holl edrych ymlaen at arlwy’r flwyddyn, dyma ‘daflu dŵr oer’ o gyfres. Ynddi, mae Dot yn gadael ei haelwyd newydd ym Mhenarth ac yn teithio i’r cadarnleoedd traddodiadol gan holi sut stad sydd ar yr iaith yno heddiw - ac yn holi a ddylai daclo ei hangst dinesig a dychwelyd i Flaenannerch ei magwraeth gan roi’r profiad ‘Cymraeg’ cyflawn i’w phlant fel y cafodd hithau. Ai Bro Morgannwg 20.7% neu Geredigion 59.2% o siaradwyr Cymraeg sy’n galw? Wrth i Dot fynd ar roadtrip ieithyddol, gwrando â chalon drom braidd wnes i wrth iddi sgwrsio gydag unig breswylydd Cymraeg rhes o dai ger traeth hudolus Cwmyreglwys Sir Benfro, a phrofiadau’r canwr Gai Toms o weld Tanygrisiau’n prysur droi’n bentra Airbnb. Roedd rhaglen arall, ar y llaw arall, yn fwy gobeithiol wrth i Dot gwrdd â mentergarwyr Aberteifi a Chaernarfon a ategai freuddwyd Adam Price o greu awdurdod datblygu “Arfor” i gadarnleoedd Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’n sefyllfa astrus unigryw i bawb. Fel finnau o Ddyffryn Conwy bellach yn Eglwysnewydd, Caerdydd, yn byw a gweithio trwy gyfrwng yr iaith, ac yn llwyddo i gael gwasanaeth Cymraeg gan fy meddyg teulu, deintydd, plymar, gyrrwr bws, caffi, siop iechyd leol... Ond yn Llanrwst (61%) mae hi'n WIRIONEDDOL iaith y stryd.

Un rhaglen sy’n weddill yn y gyfresTrowch ati - mae’n (boenus o) berthnasol i bob un wan jac ohonon ni.

Teg edrych tuag adre?



Hel straeon




Ydych chi wedi sticio efo’r adduned flwyddyn newydd? Mae gen i un dwi’n bendant am lynu ati eleni. Gwylio llai o deledu. Ie, fi, Mr Llygaid Sgwâr a rantiwr-adolygydd teledu achlysurol. Wel, nid yn hollol. Gwylio llai o deledu gwael, dramâu netfflicsaidd true crimes Americanaidd neu EwroNoir symol sy’n dechrau’n ddigon addawol cyn hen golli plwc erbyn pennod tri. A gwylio mwy o genres eraill, yn enwedig dogfennau difyr, hanesion go iawn, croniclau’r gorffennol. Gorffennol ni’r Cymry, hynny yw, nid “Britain” bondibethma. Cyfresi wedi’u llywio gan ein pobl ni'n hunain nid rhai dŵad fel Kate Humble, Griff Rhys Jones a Will Millards y byd sy'n gymaint o ffefryn gan BBC Wales. Diolch byth am S4C. Go brin y caiff cenhedlaeth newydd o Gymry fawr o ysbrydoliaeth gan ein Cwricwlwm newydd.



A dyma ddechrau’r adduned go iawn trwy droi at gyfres newydd nos Sul sy’n codi cwr y llen ar drysorau’r gorffennol a champweithiau’r presennol, yng nghwmni DJ radio “pawen lawen” poblogaidd a hanesydd pensaernïol sefydlodd amgueddfa menywod East End Llundain. Ie, Aled Hughes a Sara Huws (dim perthynas hyd y gwn i) megis Mulder a Scully Cymru yn tyrchu i hanes y genedl, drwy “ei hadeiladau... capeli, ffatrïoedd, tafarndai, bythynnod, ffermdai, cestyll, plastai, swyddfeydd... pob un yn stordy straeon” meddai’r broliant. CSI Ceredigion, os leiciwch chi, wrth i’r ddau ychwanegu nodiadau a ffotograffau ar hysbysfwrdd clir. Roedd y twitteratis wedi mopio. Dwi’n rhywfaint o sinig pan ddaw hi’n fater o heip a chanu mawl y cyfryngis cymdeithasol. Beiwch felan mis Ionawr. Ond y tro hwn, mae’r ganmoliaeth i Waliau’n Siarad (Unigryw) yn gwbl gwbl haeddiannol.

Aeth y rhaglen gyntaf â ni i fro’r Eisteddfod eleni - Ffermdy Mynachlog Fawr, drws nesaf i Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid a Thregaron. Bues i yno sawl haf yn ôl cyn crwydro moelni mawr Soar y Mynydd, yn bennaf i weld ywen Dafydd ap Gwilym (1315/20-1350/70). Prin y sylwais ar yr hen ffermdy carreg cyfagos. Rhag fy nghywilydd i. Achos, trwy ymchwiliadau Aled a Sara a’u sgyrsiau difyr â haneswyr ac ysgolheigion lleol - heb sôn am aelodau o deulu’r Arches fu’n ffarmio yno am 150 mlynedd - y daeth gogoniant y lle’n fyw. Serch y llestri llychlyd a’r cyrtens o we pry cop heddiw, clywsom am drysorau’r aelwyd ers talwm a ddenai pobl o bell ac agos. Fel y llun olew o’r diafol a godai ofn ar bawb uwch y pentan (gan gynnwys y Lyn Ebenezer ifanc), i gwpan chwedlonol Nanteos - y greal sanctaidd yr honnir i Grist a’i ddisgyblion yfed ohoni adeg y Swper Olaf - ac oedd â grym iachaol goruwchnaturiol i ymwelwyr y 19g ganrif ymlaen. Gan Charles Arch, cyflëwyd tristwch a hiraeth am ffordd o fyw sydd wedi diflannu am byth, wrth i blanhigfeydd y Comisiwn Coedwigaeth chwalu cymdogaeth y ffermydd mynydd wedi gaeaf gerwin 1947.  Gwefr Athro David Austin o brifysgol Llambed wedyn, wrth gyfeirio at garreg wreiddiol o’r ddeuddegfed ganrif ar lawr y gegin a droediwyd, mwy na thebyg, gan neb llai na Gerallt Gymro. Balchder llwyr wedyn o gyfeirio at Ystrad Fflur fel ‘Abaty Westminster Cymru’ yr Arglwydd Rhys, canolbwynt crefyddol a gweinyddol Cymru annibynnol y ddeuddegfed ganrif. Falle mai yno ddylai gorymdaith nesaf Yes Cymru fod. A gan y prifardd lleol Cyril Jones, clywsom am stamp yr Abaty ar enwau lleoedd cyfoethog y cylch. Swyddffynnon. Dolebolion. Dol yr ychain. Bron Berllan. Y cyfan yn dyst i'r anifeiliaid a'r cnydau a ffarmiwyd gan y Brodyr Gwynion. Gwae ni o'u colli i Dunroamin' y byd modern.

www.driftwooddesigns.co.uk



Dwi am biciad yno o’r Maes fis Awst. Go brin mai fi fydd yr unig un.

Ymlaen yn awchus i Goleg Harlech nos Sul nesa!


*Ol-nodyn i isdeitlwyr 'Cyfatebol'. Dwi'n ddefnyddiwr brwd o'r hen 888/889 fel rhywun trwm ei glyw, ac felly'n ddefnyddiwr beirniadol bob hyn a hyn. Mae rhai Cymraeg S4C yn dda iawn fel arfer, ac o gymorth mawr i'r Dysgwyr hefyd. Ond y tro hwn, fe wnaethon nhw gam a'r cyfrannwr hynaws Charles Arch a hiraethai am "gymdeithas gref iawn" yr hen ffermydd mynydd. 'Cymdeithas cryf iawn' meddai'r isdeitlau, sy'n anghofio'r treiglad heb son am anghofio gwrando'n iawn a pharchu'r siaradwr.


Y castell a'r coleg - Harlech


Yr Alban a ni



Ah, Alban ddewr! Pob parch, ond dwi di laru efo chdi. Wedi cael llond bol ar fwrw golwg eiddigeddus arnat o’r parthau hyn. Ie, Alban pleidiol i Ewrop, gyda phrif weinidog arlywyddol sydd ben ag ysgwydd uwchlaw unrhyw wleidydd arall yn y tipyn ynysoedd 'ma ar hyn o bryd. Alban lle gorymdeithiodd 80,000 ar strydoedd soeglyd Glasgow i ddangos eu cefnogaeth ddi-droi'n-ol i annibyniaeth. Alban hyderus ei hunaniaeth ym mhob agwedd ar fywyd - addysg, cyfraith a threfn, y wasg, celfyddydau - â’i hacen yn ewn o gyfarwydd i bedwar ban. Mater arall ydi sefyllfa’r iaith frodorol, ond testun colofn arall ydi honna. Mae ganddi ei sianel ddigidol benodol ei hun gan y Gorfforaeth Brydeinig hefyd, BBC Scotland, gan gynnwys awr o newyddion nosweithiol The Nine yn edrych ar y byd o safbwynt Albanaidd. Darlledwyd un o uchafbwyntiau dramatig 2019 ganddi hefyd. Guilt, am sgileffeithiau damwain feddwol wedi parti priodas ar ddau frawd anghymarus Max a Jake (Mark Bonnar a Jamie Sives) gyda dos go lew o hiwmor ddu bitsh yn swbwrbia ac isfyd gangstyrs Caeredin. Chafodd hon mo'i heipio i'r byw, ac mae'n ganmil gwell o'r herwydd ac yn haeddu'ch sylw. Mae'r actorion yn bownsio oddi ar ei gilydd, y deialog yn llifo a'r hiwmor yn codi'n naturiol o'r stori, a chast o Albanwyr yn bennaf 'blaw dwy Saesnes er mwyn plesio rUK. Alla i ond breuddwydio am rywbeth cyffelyb cyfoes, clyfar gan BBC Wales, nad yw'n gynhyrchiad cefn-gefn â S4C nac wedi'i sgwennu o safbwynt Sais.

Daliwch i fyny arni.


The Nine


Yr euog a ffy - Mark Bonnar + Jamie Sives 


Nos Wener, darlledwyd y bennod gyntaf mewn cyfres ddirdynnol o bedair ar Channel Four - Deadwater Fell - gyda llond cast o Albanwyr go iawn fel David Tennant am feddyg dan amheuaeth o ladd ei deulu cyfan mewn tân ym mhentref dychmygol Kildarroch. Cymharwch hynny â chyfres bedair rhan arall gan yr un sianel a welwyd cyn Dolig, The Accident, wedi’i gosod yng nghymoedd y De - gydag Enw Mawr o Loegr (Sarah Lancashire) ac eraill fel Joanna Scanlan yn Troseddu yn Erbyn yr Acen Gymreig tra’n hwrjio actorion cynhenid-cystal-os-nad-gwell fel Eiry Thomas i’r cyrion. Ac ar hyn o bryd, mae cyfres ddirgelwch arall ar ITV, White House Farm, wedi llwyddo i wneud smonach o bethau trwy gastio’r sgowsar bach enwog Stephen Graham fel DCI Tom ‘Taffy’ Jones (plisman go iawn mewn achos go iawn). Ffycsecs, pam na roddwyd y swydd i rywun fel Ieuan ‘Sarjant James’ Rhys, ein plismon drama enwocaf ni? Ydy actorion o Gymru’n ymgeisio am y rhannau hyn o gwbl, neu’n cael eu hanwybyddu’n rhacs gan gynhyrchwyr o Loegr byth a hefyd? Hyn mewn cyfnod pan rydyn ni’n allforio’n hactorion i’r West End a Hollywood ar yr un raddfa â disgyblion Cymraeg i Oxbridge.

Uffern ar y ddaear teledyddol

A pheidiwch â dechrau gyda chyfraniad diweddaraf BBC Valleys/England-in-Wales i fyd comedi. Mae holl bosteri cyhoeddusrwydd The Tuckers - Dai foliog mewn sgwter, Mam siarp ei thafod, sgrownjar mewn tatŵs a thracis, menyw sengl ar stepen drws ei thŷ teras - a welais ar dinau bysus Caerdydd yn ddigon drwg. Mae'n sgrechian "brexshit" i mi. Er, mae un o drigolion y Falis bondibethma, Leanne Wood i'w gweld yn ffan.



Diolch i dduw am ail gyfres o’m hoff gomedirama ar netflix penwythnos nesa. Er bod Sex Education, rhyw (bwm! bwm!) hybrid od-ond-llwyddiannus o ysgol uwchradd Americanaidd ag acenion Prydeinig, ffasiwn a Mini Metros o'r 80au a gliniaduron a hunluniau’r 2010au, wedi’i ffilmio ar hen gampws Caerllion a chefn gwlad godidog Sir Fynwy - does dim byd neilltuol o Gymreig amdani. Heblaw am bit-part Lisa Palfrey. Ac eto, mae logo ac enw Llywodraeth Cymru’n amlwg iawn ar y credits clo.

Petai llywodraeth y Bae ond wedi bod yn ddigon hyf i fynnu bod Sex Education - a welwyd gan 40 miliwn o aelwydydd yn yr Unol Daleithiau’n unig y llynedd - yn defnyddio actorion Cymreig-yn-bennaf law yn llaw â Gillian Anderson, yn gyfnewid am nawdd ariannol hael i ffilmio yma. 

Petai ond gennym hyder yr Albanwyr.


Hysbysfyrddau Cymraeg y gyfres gyntaf
"Mae yna ormod o bwyslais ar brofiad"

Asa Buttefiled (Otis) a Gillian Anderson (Dr Jean Millburn) fel y mab a'r fam o therapydd rhyw 

Gwylio dros y gwyliau



Sdim byd fel gwylia’ traddodiadol adra’ i wneud i rywun werthfawrogi’r pethau bychain. Yr ‘adra’ gwreiddiol hynny yw, bro eich mebyd, y mae rhywun yn dal i ddychwelyd ato o’u hail gartref. Yr adeg o’r flwyddyn lle mae amser a’r diwrnodau’n ymdoddi’n niwlog i’w gilydd, ymestyn hen gemau bwrdd o gefn y cwpwrdd, deiet ôl-Dolig yn gigach oer a gormod o focsys siocled wrth erchwyn y soffa, mynd am dro ffres cyn dychwelyd at danllwyth o dân, ac S4C yn hawlio’r bocs. Achos does dim wi-fi ar yr hen aelwyd, felly dim gloddesta ar bopeth netfflicsaidd neu bocsets bwygilydd. 



Tymor y gwylio byw felly, yn amrywio o gamprwydd Parti Dolig Magi Noggi (a’i gwesteion Elin Fflur, Ifan JW, Alun Williams a’r Prifardd Gruffudd Owen a chesys Merched y Wawr Llanfair Mathafarn Eithaf) i garolau Dechrau Canu Dechrau Canmol o’r Wyddgrug. Rhifynnau arbennig o gyfresi poblogaidd fel Prosiect Pum Mil emosiynol o G’narfon i Gwesty Aduniad (ddim mor emosiynol). Roedd y bennod ddilynol am ddyn yn chwilio am hanes ei dad go iawn, milwr Lwcsembwrgaidd o'r ail ryfel byd, yn llawer mwy dirdynnol. Awr o Pobol y Cwm gyda’r dos tymhorol o chwalfa briodasol (Tyler ac Iolo, neu TyLo i’r selogion), torcalon straeon dementia a mabwysiadu, a damwain car ar stryd fawr berycla' Sir Gâr. Doedd Cefn Gwlad: Seindorf Arian Crwbin heb daro tant sawl aelod hŷn o’r teulu, gyda lot yn awgrymu ei bod hi’n hen bryd i Dai roi’r ffon fugail yn y to. Diolch byth am lyfrau newydd difyr gan Aneirin Karadog, Simon Reeve, Gwen Parrot a Levison Wood i fwrw’r nosweithiau. A diolch i’r drefn am adolygiadau Siân Harris a Tudur Owen O’r Diwedd 2019, gyda sgetshis smala am ffarmwr Brexitaidd o Fôn, cyfres P’nawn Da, sbŵff yr Alexa Cymraeg (“Alwena”), cic Eve Mylesaidd i Huw Onllwyn a fersiwn ratach Gymraeg o Fflîbag. Ac yn y Saesneg, bu cryn edrych mlaen at aduniad hirymarhous Gavin and Stacey y bu cryn ffỳs a ffwdan amdani wedi’r darllediad - cynnwys y gair “ff” yn neuawd (drwg)enwog y Pogues a Kirsty MacColl a’r cyhuddiad fod y sgript yn chwerthin am ben y Cymry - er mod i’n bersonol ei gweld hi’n chwerthin am ben dwpdra cariad newydd Smithy ar ymweliad-tro-cynta â’r Barri. A gan mai hon oedd llwyddiant ysgubol y Bîb Dolig yma, mae’n anorfod y gwelwn ni fwy o sbeshals neu hyd yn oed gyfres arall yn y dyfodol. Efallai fod James Corden megis Marmite i lawer, a tydw i ddim yn ffan enfawr o’r Brit Rob Brydon chwaith. Ond mae Alison Steadman yn ddigon o abwyd i mi’n bersonol.

Ond ar ôl dychwelyd i’r brifddinas, a’m set deledu clyfar sy’n caniatáu i mi ddal i fyny ar bethau, dyma ymgolli’n llwyr yn arlwy noir ddiweddara BBC Four. Cyfres deg pennod Wisting o lyfrau Jørn Lier Horst am dditectif a gŵr gweddw sy’n ymchwilio ar y cyd â’r FBI i serial killer ganol gaeaf noethlwm Norwy. A ninnau heb weld ’run pluen yng Nghymru eto'r gaeaf hwn, mae hon yn drwch o eira a dirgelwch Nadoligaidd i hoelio’ch sylw dros y nosweithiau Sadwrn atmosfferig nesa.