Radio pwy?




Erbyn adeg yma'r flwyddyn nesaf, fydd o ddim yno. Bloc concrid y BBC yn Llandaf a agorwyd ym 1966, sydd i'w ddymchwel er mwyn gwneud lle i 400 o dai a fflatiau hyd Heol Llantrisant, tagfa waetha'r brifddinas yn barod. Bydd 1,200 o gyfryngis (gan gynnwys ambell weithiwr S4C a chwmnïau annibynnol) yn mudo i’r Sgwâr Canolog ger y brif orsaf drenau a mwy fyth o Brets a Bŵts, i bencadlys gwydrog £100 miliwn Foster+Partners, dylunwyr to gwydr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

HQ Llandaf (1966-2020)


Ac mae datblygiadau diweddar yn gwneud i rywun amau a fydd Radio Cymru hefo ni am lawer hirach. Hyn yn sgil ffigurau ymchwil cynulleidfaoedd radio diweddaraf Rajar sy’n siomedig uffernol i brosiect Rhuanedd Richards. Tra bod Radio Wales dan-y-lach wedi denu 51,000 yn fwy o ffyddloniaid i 368,000, colli 6,000 oedd hanes y chwaer orsaf Gymraeg - i 102,000 - yr isaf ers 2016 yn ôl Golwg360. A na, waeth i chi heb â thyrchu drwy Cymru Fyw am fanylion. Mae hefyd yn anodd os nad yn amhosib ffeindio ffigurau penodol i Gymru gan Rajar (rheswm arall dros ddatganoli darlledu a’r gwaith craffu i Gymru).

Yr hen...


Yr hyn ddylai boeni Ms Richards ydi’r ffaith fod “y ffigyrau ar gyfer Radio Cymru hefyd yn cynnwys y nifer sy’n gwrando ar ei chwaer-orsaf ddigidol, Radio Cymru 2”. Llaw i fyny pwy sy’n gwrando ar yr ail donfedd. Unrhyw un? 

Serch diflastod di-ben-draw Brexit, dw i’n sgut am newyddion, felly criw’r Post Cyntaf sydd yng nghof fy nghloc larwm cyn troi i 5 Live Breakfast am fwy o fanylder byd-eang, efallai Today Radio 4 rŵan bod John Humphreys wedi gadael. Dw i’n deall fod Cân y Babis yn dal i fynd ar Radio Cymru 2, a’r un hen rai’n dal wrthi fel tasa nhw’n dal yn sownd yn 2010-2014. Dro arall, fe glywch chi Lisa Gwilym neu Daniel Glyn, weithiau Carl ac Alun (fy ffefrynnau hyd yma). Mae cyffro a ffresni arbrawf Radio Cymru Mwy, fu’n darlledu rhwng 7 y bore a hanner dydd rhwng mis Medi a Rhagfyr 2016, yn ymddangos fel breuddwyd bellach. Elan Evans, Zowie Jones, Gareth ‘Gaz Top’ Jones, Carwyn Ellis, Sam Rhys, Gwennan Mair, Steffan Alun. Dw i'n cofio gweithio adra' ambell ddiwrnod, a wirioneddol fwynhau cerddoriaeth gwahanol i'r arfer canol y ffordd Cothi a'i chriw

Lle aeth pawb? 

... a'r newydd?


Cwtogi fu hanes yr ail wasanaeth, o ran cyflwynwyr ac oriau i ddim ond 6.30-8.30 y dydd.

A chwtogi ydi hanes darllediadau byw o rai o’n gwyliau mwyaf poblogaidd hefyd. Dw i'n ymwybodol nad ydi corau Laura Ashley-aidd â geriach Cwt Tatws, na ffarmwrs mewn ffrogiau (Maggi Noggi’s Drag Race?) at ddant pawb, ond mae penderfyniad Radio Cymru i beidio â darlledu’n fyw o’r ŵyl gerdd dant nac Eisteddfod CFfI Cymru eleni yn od ar y naw. Pecyn pigion, uchafbwyntiau’r naill o Lanelli a’r llall o Wrecsam fydd hi. Iawn, efallai fod gemau rhyngwladol yr hydref yn boen i drefnwyr amserlenni’r orsaf yn y gorffennol, ond ’sdim esgus eleni, gyda’r Principality yn wacach na’r arfer ers Cwpan y Byd Japan. Ac mae tonfedd Radio Cymru 2 yn segur ar bnawniau heb gemau Caerdydd neu Abertawe.

Mae amserlen S4C, ar y llaw arall, yn dangos y bydd yna gerdd dant ar y bocs am 2 y pnawn ac 8 nos Sadwrn 9fed Tachwedd. A dw i’n cymryd y bydd Ifan J.E a Meinir Ffermio yn cyflwyno steddfod y ffarmwrs ar nos Sadwrn ola' Tachwedd (er bod Cymru v Barbariaid ar yr un diwrnod).

Mae’r manylion yn annelwig, a’r rhesymau’n niwlog. Ymateb y pen bandit hyd yma yw:

O ran yr Ŵyl Cerdd Dant, rydym yn edrych ymlaen at ddarlledu rhaglen gynhwysfawr o uchafbwyntiau... Dyw’r ŵyl ddim yn cael ei dileu o gwbl - rwy’n gobeithio’n y bydd rheini sy’n mynychu’r ŵyl, ynghyd â’r rhai sydd ddim,yn medru mwynhau’r rhaglen y byddwn yn ei chynhyrchu.

Sôn am biso ar jips y gynulleidfa draddodiadol. 

Nais won, Radio Cymru. 



Gwylio Cymru'n colli


A fo ben bid Boks

Ro’n i’n ofni’r gwaethaf bore Sul. Yr hen deimlad gorhyderus yna, y cyffro, mentro’n lwc ymhell cyn y gic gynta. Y “bwrlwm” hyd yn oed, chwadal gormod o gyflwynwyr S4C.

Beiwch Llinos Lee. Wel, nid Llinos Lee yn benodol, ond ei chyflogwyr Heno am gytuno i gais rag-blaen S4C i gynhyrchu rhaglen arbennig ‘Cymru yn Gwylio’. Roedd hys-bys y rhaglen gylchgrawn hirhoedlog yn gofyn i’r gwylwyr anfon “... lluniau a chlipiau fideo gennych chi ble bynnag fyddwch chi’n gwylio’r gêm! Gartre yn eich pyjamas! Yn y clwb rygbi lleol! Ar eich ffôn yn y capel! Ble bynnag y’ch chi, anfonwch eich lluniau a’ch fideos i lluniau@tinopolis.com”

Iawn digon teg. Y drwg oedd, eu bod nhw hefyd wedi anfon gohebwyr i bedwar ban - wel, tri chornel o Gymru o leiaf yn Nhreorci, Llanrwst a Chaerfyrddin. A rhwng awr o luniau o blantos bach mewn crysau rygbi a hyd yn oed ambell gi wedi’i lapio’n goch, fe gawson ni’r boen a’r artaith o wylio’r tri chyflwynydd - Llinos, Owain Tudur Jones a Mari Grug - yn ceisio’u gorau glas i greu bwrlwm ac “awyrgylch bythgofiadwy”, cyflwyno crys polo Heno i rieni prop y Sgarlets Owain Tomos Wyn Jones, holi Sarra Elgan-Easterby fuodd yng ngêm ysblennydd Iwerddon-Japan, yr actor-a’r-sgotwr Julian Lewis Jones ar fin hedfan draw, holi mwy o’r gwylwyr rhwng coffi a Carling, cyn yr ymateb anorfod i’r sgôr anffodus. Ac roedd fel petai mwy o Gymraeg yng nghynulleidfa clybhows y Zebra’s na’r Cwins.

"Bak-san" y siwpyrffan. Hiroshi Moriyama, seren #CRB2019


Rhaglen fyw nos Sadwrn-cyn-gêm ddylai hon wedi bod. Yr holl edrych ymlaen gyda gohebwyr soffas, negeseuon pob lwc gan Gymry o’r Allt-wen i Auckland, cyfweliadau â pherthnasau balch y “bois”, barn yr Alun Wyn Bevans ar y twrnamaint hyd yma, ambell gân – nid rhaglen fflat nos Lun drannoeth poen Handré Pollard. Rhaglen a allasai fod yn arbrawf cyn y slot Sadwrn os yw’r sïon yn gywir.

Gair i gall Tinopolis ac S4C. Er mwyn dyn, peidiwch â darlledu rhaglen arall nos Lun nesa’n dilyn gornest y fedal efydd yn erbyn y Crysau Duon.

Allwch chi fynd i Hakodate heb ddweud ie?


Newyddion arall, mwy cadarnhaol, ydi darllediadau byw S4C o Toyota City, Tokyo, Kumamoto ac Oita – yn enwedig sylwebaeth glir a chroyw Wyn Gruffydd. Cefais flas mawr ar ddawn deud naturiol Gareth Charles ar Radio Cymru hefyd. 

Dau, ysywaeth, a ategodd y gagendor rhwng Cymraeg naturiol y to hŷn profiadol a Chymraeg clapiog y ‘bois’ newydd.




Nit i Dia


Mae Barcelona yn y newyddion yn gyson dyddiau hyn - am y rhesymau anghywir. Mae strydoedd y ddinas yn berwi o densiwn rhwng protestwyr a heddlu’r wladwriaeth, yn dilyn penderfyniad uchel lys Sbaen i garcharu deuddeg o wleidyddion Catalunya yn sgil y refferendwm ‘anghyfreithlon’ honno yn 2017 pan bleidleisiodd 92.01% o blaid annibyniaeth. 

Beat that, Brexit! 

Ac mae elfennau gwleidyddol yn sail i Night and Day hefyd, ond am resymau llwgrwobrwyol. Ie, dyma’r binj (“gorwylio mewn pyliau” o ddilyn patrwm geirfa’r Cynulliad) diweddaraf gan Walter Presents. Fe draflyncais y gyfres gyntaf am fyd cyfreitha a phatholegwyr fforensig y llynedd, a dw i mewn peryg o wneud yr un fath efo’r ail hefyd. 

Croeso mawr yn ôl, felly i’r patholegydd Sara Grau (Clara Segura) newydd-ysgaru a’i thîm brith - gan gynnwys ei chariad newydd Aitor Otxoa, y technegydd labordy Pol Ambrós â chwip o fwstas, a’r barnwr trylwyr Olga Comas mewn perig o dynnu’r awdurdodau i’w phen - oll dros eu pen a’u clustiau mewn ymchwiliad sy’n cwmpasu llofruddiaeth o ddyddiau gemau Olympaidd 1992, seilam iasol, ogofâu tywyll, trionglau serch a gwleidyddion hollol lwgr mewn plastai-a-phyllau-nofio uwchlaw’r ddinas. Ac nid Barcelona liwgar Gaudi welwn ni yma, ond Barca mwy oeraidd clinigol ganol gaeaf, llawn tyrau gwydr modern yr ardal fusnes, sy’n ychwanegu at yr awyrgylch heb os. 



Gyda thair ar ddeg o benodau i gyd, mae’n dipyn o ymroddiad, ond diawcs yn werth eich amser gyda chymaint o fân straeon a chymeriadau sy’n siŵr o blethu maes o law.

Night and Day (Walter Presents) Catalaneg gydag isdeitlau Saesneg


Pol a Sara












Pen-blwydd hapus, Pobol!




Mae cyfres sebon hyna’r BBC ar y teledu – mewn unrhyw iaith – yn 45 mlwydd oed. Naw wfft i’r cocnis, Cwmderi sy’n ben! Ac ar ôl deall hynny, dyna glicio wedyn PAM mae yna gymaint o fynd ar Pobol y Cwm ar hyn o bryd. Ffrwydrad nwy yn y Salon (voodoo'r Cwm heb os er llofruddiaeth Sheryl), gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i Dani, Sioned, Tyler, Sara a Dylan (a Jason). Gyda'r adeilad bellach yn rhacs jibiders, hwyrach y cawn ni siop e-sigarets (Deri Vape-io?) neu siop elusen arall rwan, fel pob stryd fawr gwerth ei halen yn brexitshire.


@pobolycwm


Cyfaddefiad. Dw i heb wylio’n gyson ers wythnosau. Do, dw i wedi eistedd o flaen y bocs am wyth o’r gloch sawl nos Wener dim ond i weld gêm fyw Llanbedinodyn Rangers yn erbyn Cwmsgwt FC. Ydy, mae amserlen newydd S4C wedi ’nrysu i’n rhacs. Clic neu Iplayer amdani. 

Ond roedd hysbysebion y cyfryngau cymdeithasol yn addo pethau mawr, felly dyma ddychwelyd i’r Cwm yn nosweithiol am unwaith. Gan gychwyn gyda phennod “wîyd” nos Lun, chwadal fy nai wyth mlwydd oed. Ynddi, roedd Sioned Rees yn cerdded yn freuddwydiol o amgylch ffermdy a buarth ei mam mewn rhyw ffrog angylaidd o wen. Iaaaaaaaawn, oce, meddyliais. Cyn hynny, yng nghliffhangyr nos Iau cynt (sef y nos Wener newydd yn nhermau amserlen newydd ddryslyd S4C) roeddem wedi gweld enfant terrible Penrhewl yn llowcio pils a chlecian jin cartre’ organig Eileen. Nos Lun wedyn, mae’n syllu'n hiraethus ar hen luniau’r teulu (Denz! Anti Marian! Anti Gina! Anti Meira!) ac yn chwarae gêm o truth or dare gydag Eileen a llanc ifanc, sef – erbyn deall – ei hefaill John (Siôn Emyr), a fu farw yn y crud dros chwarter canrif yn ôl. Hyn oll i gyfeiliant cerddoriaeth biano, mewn cyfres sydd BYTH yn cynnwys sŵn cefndir heblaw ambell Elin Fflur ar jiwcbocs y caff. Erbyn inni ddychwelyd at bipian y peiriant cynnal bywyd, a’r Sioned angylaidd yn syllu ar Sioned y ddiafoles yn ward Casualty, deallwn wedyn mai rhyw limbo oedd hanner cynta’r bennod, a bod lleisiau’r gorffennol yn ei gwawdio i gallio os oedd hi eisiau byw. 

Trueni na lwyddodd y cynhyrchwyr i ddenu Gwyn Elfyn yn ôl am un wopar o bennod swreal. Mae Eileen heb Denz fel bîns heb dost. Sori, Jim. Gyda llaw, be' ddiawl ma hwnnw'n neud yn NZ o bob man y dyddiau hyn? Dw i wedi colli'r plot arall yn rhywle.



Sioned Rees (Emily Tucker) ydi un o gymeriadau gorau’r Cwm, chwip o actores sy’n llwyddo i ennyn cydymdeimlad a blydi gwd shiglad yr un pryd. Cymeriad mor eiconig nes bod ganddi’i thudalen Facebook ei hun dan y teitl ‘MAE SIONED REES POBOL Y CWM YN HAEDDU SLAP’. Creodd gymaint o lanast nes ’mod i’n disgwyl i Met Éireann fedyddio storm ar ei hôl. Cyffuriau, rhyfeloedd cartref gyda’i mam, trais domestig yn erbyn ei gŵr, caru gyda’i hanner cefnder, treisio, cyffuriau, sefydlu-a-chwalu sawl busnes, cario plentyn Gary Monk, pwl o garchar, mwy o gyffuriau, herwgipiad, ffeit gyda'i mam...

Beth arall sy’n bosib i’r cymeriad lliwgar hon? 

Sbinoff Saesneg Sioned and The City ar BBC Wales, gydag ambell gip a chyfeiriad at Gwmderi bob hyn a hyn i ddenu mwy fyth i wylio’r fam-gyfres ar S4C wedyn?

Diflannu i grombil llong ofod mewn lei-bai ar heol Llanarthur? 





Ac unwaith eto, Sioned Charles-Rees sydd wedi sbarduno daeargryn diweddara' Pobol. Yr wythnos hon, mae’n debyg fod stori fawr y flwyddyn yn dod i fwcl. Ewch nôl i fis Gorffennaf a pharti drwgenwog fflat y caffi, pan gymerodd Ricky E’s yn ddamweiniol o baced parasetemols ym mathrwm Sioned, a hedfan i’w goma o ben to Siop y Pentref. 

Dros yr wythnosau canlynol, wrth i Mark Jones ei dad (postmon pat parchus heddiw ond cyn-ddeliwr yn ei ddydd) chwarae ditectif am waed y gwerthwyr cyffuriau gan amau Garry Monk a hyd yn oed Kath ei fam, daeth i’r amlwg yn raddol mai Debbie - gwraig Mark, mam Rickaaay - oedd y dosbarthwr cudd desbrét am arian i dalu am ei phriodas a bywyd coleg Ricky. Â'i heuogrwydd yn ei bwyta'n fyw, trosglwyddodd yr awenau i Gwyneth Jones (sy’n mynd ben-ben â Sioned am deitl Cymeriad Mwyaf Amhoblogaidd y Cwm) a oedd yn desbrét am gash i brynu’r Salon a ddygodd oddi wrth Sheryl (RIP) yn y lle cyntaf.

Ydych chi’n dal efo fi?

Yng nghanol hyn i gyd, ac yn ystod yr wythnosau a gollais, mae pawb (Ffion, Geinor, Izzy, Tyler) yn rhyw alaru-gyfeirio at ddisgybl o’r enw Jamie fu farw o orddos. Ac mewn pwl o wendid dainous, aiff Sioned at yr heddlu - wel, CID Janet Aethwy - i ddatgelu taw rhywun o’r enw Jesse (Siân Beca, Cathryn Rownd a Rownd gynt) ydi’r pen bandit tu ôl i hyn i gyd. Yn anffodus, dyw’r heddlu aka Janet Aethwy ddim yn gallu ffeindio Jesse serch y lliw gwallt mwyaf anghynnil y tu draw i Bont Abram, ac mae sawl bywyd yn y fantol.

Teulu da. Bechod am y jympyrs

Yn y cyfamser, mae'r teulu Parri wedi ennill eu plwyf. Dyna chi dad a mab syndod o debyg (castio da!), Mali Harries ar secondiad o'r Archers a Lois Meleri-Jones yn ymuno â'r rhestr anrhydeddus o Gogs sy'n llwyddo i argyhoeddi'n llwyr fel Hwntws. Ac wedyn Sharon Morgan sy’n actio’r fam-yng-nghyfraith ddireidus Brenda, ei thrydydd cymeriad gwahanol yn y gyfres. Mae gen i frith gof o Sylvia Bevan (1984-87) gwraig gyntaf Stan, ond nid Siân Jones yr athrawes (1978). 

Chwarae teg, ’mond pedair oed oeddwn i.


Beth Robert yn cynllwynio cymbac arall

Ac mae wynebau cyfarwydd fel Cassie Morris a Lisa Morgan yn dal i gadw cysylltiadau’r gorffennol yn fyw, gyda'r naill bellach yn awdures Fifty Shades of Gray Cymraeg a’r llall yn un o ferched y nos (“sex worker yw’r term dyddie ma”) er mwyn fforddio lle i’w mam yng nghartre gofal Brynawelon. Ac ydy, mae’r hen gi o Gynghorydd Hywel Llywelyn wedi cael ei fachau ar y ddwy eto.

Gymaint yn digwydd, cymaint o gwestiynau. Ond gyda'r gyfres i fod yn seiliedig ar Gwm Gwendraeth, y peth mwyaf sy’n peri penbleth i mi ar hyn o bryd yw hyn:

Ble iyffach mae’r byntings rygbi a’r cyfeiriadau at Gwpan y Byd yn y Deri Arms?

"Wel y jiw jiw.
Sa i'n gwbod beth sy' di dicwdd i'r Cwm, nagw i wir"



Diolchgarwch dramatig


Mae’n dymor diolchgarwch i’r capelwrs o’ch plith, cyfnod traddodiadol i ganu “deuwn ger dy fron yn awr” i ddiolch am y cynhaeaf, a sawl set fawr wedi’i haddurno â basgedaid o ffrwythau, llysiau a bara beunyddiol. Ac mae’n gyfnod ffrwythlon iawn i ni Lygaid Sgwâr hefyd. Rŵan, dwi ddim yn foi cymdeithasol ar y gorau ond mae’r myrdd o gyfresi newydd ma’n fy ngwneud i’n fwy o feudwy na’r arfer.



Mae nosweithiau Sadwrn eisoes yn sanctaidd, gyda seithfed cyfres ddrama Spiral, allforyn gorau Ffrainc ers Cantona. Os ydych chi’n gobeithio am ddelweddau neis-neis o boulevards coediog a chafé-bars chwaethus dan gysgod tŵr Eiffel, fe gewch eich siomi. Achos Paris ar y cyrion sydd yma, llawn blociau fflatiau di-raen, iardiau sgrap, haid o hwdis Arabaidd a duon, traffickers rhyw a wardeiniaid carchar sy’n sleifio hash gyda’ch baguette boreol. Ac yn eu plith, uned yr heddlu sy’n sgrialu rownd y lle mewn Clios tolciog pan nad ydyn nhw’n diawlio neu’n boncio ei gilydd cyn dychwelyd i’r gwaith oriau’n ddiweddarach â rhyw agwedd je ne sais quoi. Mae’n gyffrous, yn emosiynol (da chi wir yn ’nabod ac yn malio am y cymeriadau – gweler perthynas dymhestlog Laure a Gilou, neu un gynnes Laure a’r Barnwr François Roban) ac yn agoriad llygad i system gyfiawnder gymhleth, weithiau llwgr, Ffrainc. Yn gydgynhyrchiad rhwng Canal+ a BBC Four, mae’n enghraifft brin o gydweithio Eingl-Ffrengig ac rhagori ar lot o bethau Saesneg-yn-unig. 

Tybed ydi Boris yn gwylio?



Nos Sul wedyn, mae dogfen a drama’n cyd-daro am naw o'r gloch. Draw ar BBC Two, mae gynnoch chi The Americas with Simon Reeve gyda’r awdur a’r ecolegydd brwd. Ac fel cyfresi blaenorol o Rwsia, Iwerddon, Awstralia a Môr y Canoldir, does ganddo ddim ofn dangos y drwg yn ogystal â’r da. Rydyn ni eisoes wedi cael gwledd i’r llygaid ac ambell ’sgytwad - o ddadmer difrifol rhewlifoedd Alaska i argyfwng cyffuriau dinas lewyrchus Vancouver; yr heriau o fod yn gowbois-ffermwyr Montana ac ailgyflwyno’r byfflos ac eryrod aur i’r gwyllt, a diwydiant carchardai Colorado mewn gwlad lle mae cyfwerth â chwarter holl boblogaeth y byd dan glo. Cyfres sy’n ategu’r ffaith ’mod i’n hiraethu am rywbeth tebyg yn y Gymraeg. Yn eironig, roedd S4C yn ailddarlledu Gwanas i Gbara (2010) yn hwyrach yr un noson. 




Ar BBC One wedyn, dilynwn hynt a helyntion tri pherson ifanc ar drothwy’r Ail Ryfel Byd a thu hwnt yn World on Fire wrth i’r goresgynwyr Natsïaidd newid eu byd am byth. Cyfres berffaith, byddech chi’n tybio, i’r brexitiaid sy’n synfyfyrio’n orgasmig am bopeth Ymerodrol Churchillaidd ar hyn o bryd - ond cyfres sydd hefyd yn pwysleisio brwydrau’r Pwyliaid yn erbyn eu goresgynwyr ciaidd. Wedi’i ffilmio’n Manceinion a Prâg, mae manylion ffasiwn y cyfnod a’r ffasiwn lanast yn rhyfeddol, a’r straeon personol yn torri calon rhywun serch y darnau Mills a Boonaidd ar brydiau, a Sean Benn bron yn wawdlun o yrrwr bws dosbarth gweithiol gogledd Lloegr.



Nos Lun a nos Fawrth, cyfres dditectif newydd sy’n galw gyda deryn syndod o brin –drama o’r Ynys Werdd. Alla i ddim cofio’r tro diwethaf i mi wylio drama Saesneg o Iwerddon, heblaw Jack Taylor efallai gyda’r sgotyn Iain Glen yn chwarae rhan y cyn-garda alcoholig o Galway. Mae The Dublin Murders yn seiliedig ar nofelau poblogaidd (meddai amazon) Tana French, gyda’r heddlu ar drywydd llofrudd balerina ifanc wedi’i gadael wrth allor garreg hynafol mewn coedwig ger y brifddinas (as iŵ dw) yn 2006, pan oedd y 'Teigr Celtaidd' ar dân. Ac fel pob stori dditectif gwerth ei halen ystrydebol, mae gan y lleoliad ryw ystyr hanesyddol poenus i’r ditectifs Cassie Maddox (Sarah Greene) a Rob Riley (Killian Scott). Serch fersiwn y Gorfforaeth Ddarlledu Seisnig, mae’r actor Killian Scott yn mynnu bod yna deimlad Dulynaidd i’r cyfan - er bod cryn dipyn ohoni wedi'i ffilmio dros y ffin ym Melffast.

"As for the version of Dublin that is portrayed, we see tightly-knit small communities completely unravel due to a local incident, in this case a murder. That element was particularly Dublinesque for me...  the show also doesn't romanticise Dublin, it shows the gritty, dark underbelly of the place... there is also this mythical quality to Dublin Murders, there is an ominous presence, you start to get this idea that these woods are somehow alive”.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Craith Gwyddelig hon.




’Sdim modd osgoi Siapan ar hyn o bryd, rhwng rhyw dwrnamaint chwaraeon a rhaglenni di-ri gyda Gareth Rhys-Owen, Sue Perkins a Joanna Lumley. A bydd cywaith arbennig rhwng BBC Two a Netflix ymlaen bob nos Iau sy’n ennyn chwilfrydedd – thriller rhyngwladol Giri/Haji (“Dyletswydd/Cywilydd”) sy’n pontio Tokyo a Llundain. Ynddi, mae’r ditectif a’r dyn teulu Kenzo (Takehiro Hira) yn hedfan i Brydain i chwilio am ei frawd gyda chymorth Sarah (Kelly Macdonald) o Heddlu'r Met, ond mae’r personol a’r proffesiynol yn cymhlethu pethau wrth i’r ddau ddisgyn dros eu pen a’u clustiau mewn rhyfel gangiau. Un arall sy'n swnio'n hynod ddifyr, a bydd y metropolis neon yn siwr o ychwanegu lliw a bwrlwm i'r cyfan.



"Mae yna bobl clên allan yna"


Am chwarter i hanner nos, 29 Chwefror 2016, cysylltodd Heddlu’r Gogledd â chriw achub mynydd Aberglaslyn. Gofyn am gymorth oedden nhw i chwilio am lanc deunaw oed ar goll. Un o aelodau’r criw oedd Dion Llwyd, a’r hogyn dan sylw oedd ei fab Josh Llwyd-Hopcroft o Lanfair ger Harlech. Buon nhw wrthi tan oriau mân y bore canlynol, heb lwc. Ar doriad gwawr, aeth Dion allan i chwilota ei hun, cyn dod ar draws ei fab am 8.30 y bore. Canfuwyd ei gorff mewn cae ger cartre’r teulu. Roedd wedi gwneud amdano’i hun.

Tair blynedd yn ddiweddarach, ac roedd ei deulu eisiau cymorth i gwblhau cwt yng ngwaelod yr ardd er cof am Josh. Caban cwnsela, lle cartrefol i siarad dros baned a chacen yn hytrach na mewn awyrgylch clinigol. Hafan â golygfeydd godidog dros ddyffryn Ardudwy a’r môr. Achos, fel y dywedodd Dion a Sue ei wraig trwy lwmp yn eu gyddfau, roedden nhw’n teimlo wedi’u hynysu yn eu galar ac felly am sicrhau cymorth a chysur i eraill yn yr un sefyllfa dorcalonnus.



Ac wele Trystan ac Emma, fel gwenyn prysur teitlau agoriadol Prosiect Pum Mil, a’u byddin o helpars a’r dylunydd Gwyn Eiddior. Doeddwn i ddim yn wyliwr brwd iawn o’r fam gyfres briodasol, BAFTAidd, ond roedd hi’n gryn ffefryn gan sawl cydnabod. Y tro hwn, fel DIY SOS ar dipyn llai o gyllideb, mae’r ddau’n teithio ledled y wlad i weithio ar brosiectau cymunedol dros benwythnosau. ’Sdim dwywaith bod nhw’n dîm da, yn asio’n ogleisiol hefo’i gilydd a bellach wedi bachu slot cyflwyno ar donfeddi Radio Cymru rhwng unarddeg a dau bob dydd Sadwrn. Ac fel pob cyflwynydd teledu gwerth ei halen, does ganddyn nhw ddim ofn dangos eu hemosiynau fel bo'r angen. Ac wedi’r her o osod cegin yn y caban, chwalu concrid i blannu blodau gyda garddwr Portmeirion, codi wal sych hefo ffrind ysgol Josh, gosod giât enfys symbolaidd a chodi cerflun anhygoel o oleudy a broga (gwyliwch i ddeall y cyd-destun) - mae’r teulu a ffrindiau’n dod ynghyd i gofio a chofleidio. Gyda’r rhan fwyaf yn cyfrannu am ddim, dyma gyfres berffaith i’n hatgoffa am ddaioni'r hen fyd ’ma hyd yn oed os nad ydi’n gwleidyddion yn brawf o hynny.

Gwylio gwirioneddol dwymgalon felly, coffadwriaeth dda i Josh, a dangosiad amserol iawn adeg Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Siaradwch da chi. 

Achos fel y dywedodd Emma, “mae yna bobl clên allan yna”.



Mae’n debygol fod y criw cynhyrchu yn chwilio am fwy o heriau’r flwyddyn nesaf, yn ôl blyrb S4C: 

Bydd cyfres arall o Brosiect Pum Mil flwyddyn nesaf ac mae’r cwmni cynhyrchu Boom Cymru yn chwilio am brosiectau cymunedol uchelgeisiol i gymryd rhan. Os ydych chi yn gwybod am brosiect sydd angen help, cysylltwch â Boom Cymru drwy ymweld â’u gwefan: www.boomcymru.co.uk/ ffurflen-gais-prosiect-pum-mil