
Dyma glip difyr arall o gomediwr a chyflwynydd radio a theledu nid anenwog o Gaerfyrddin yn son am ei brofiadau anffodus ym maes awyr Awstralia!

SOUTHLAND, More4, Nos Iau 10-11pm




Papur dwybunt Banc y Ddafad Ddu




Ddydd Sadwrn diwethaf, roeddwn i’n difaru. Difaru nad oeddwn i yno yng nghanol miloedd o gyd-Gymry yn mwynhau’r hwyl heintus yng ngwres tanbaid Mehefin. Na, nid Stadiwm y Mileniwm yn gwylio’r crysau cochion yn colli o drwch blewyn Sbringbok eto fyth, ond Llanerchaeron. I’r sawl ohonom na fentrodd i Costa del Ceredigion, roedd rhaglenni dyddiol rhagorol S4C yn gwbl hanfodol. Er mai cwmni gwahanol oedd yn gyfrifol am yr arlwy eleni - Avanti yn lle Hanner-Hanner - roedd yr hen stejar ddibynadwy Nia Roberts yma o hyd. Druan ohoni hefyd, yn gorfod llywio’r rhaglenni dyddiol mewn stiwdio digon tywyll ac anghynnes, tra bod Heledd Cynwal yn rhydd i grwydro’r maes heulog yn y rhaglenni uchafbwyntiau nosweithiol. Cafodd Mari Grug secondiad o’r swyddfa dywydd i lenwi sgidie arferol Alwyn Humphreys a’r llyfr testunau, a’r ddau fyrlymus Mari Lovgreen a Trystan Ellis-Morris yn bachu ar berfformwyr bach a mawr. Braidd yn rhy fyrlymus ar brydiau, wrth i Trystan fynnu bod pob giang o blant yn sgrechian gweiddi am y gorau gefn llwyfan. Diolch byth am y botwm ‘mute’. Ac unwaith eto, mae gen i’r un hen gŵyn ynglŷn â diffyg creadigrwydd a chlyfrwch yr holwyr - does dim byd gwaeth na chlywed yr hen gwestiwn difflach “sut ti’n teimlo?” dro ar ôl tro ar ôl tro. Ac roedd y cythrel cystadlu’n amlwg erbyn y noson olaf, gyda chriw’r Waun Ddyfal, Caerdydd, yn prysur ddatblygu’n rhyw ‘LanaethwyCF1aidd’ arall, fel y rhai i’w curo ar bob cyfri. Diawch, fe aeth hi’n ymryson mewnol erbyn y diwedd, gyda Chôr Waun Ddyfal ‘A’ yn mynd ben-ben â Waun Ddyfal ‘B’. Ond y Cardis oedd gwir enillwyr yr wythnos, gyda phawb yn canmol y lleoliad a’r awyrgylch a’r croeso hyfryd. Mi gawn nhw fwy o gyfle i frolio mewn mis, fel sir nawdd y Sioe Fawr. Gobeithio y bydd Mari Grug wedi trefnu tywydd cystal bryd hynny hefyd.
Teulu'r Caddock, Royal Wedding. Ymddiheuriada am Jacs yr Undeb.Mae’n dymor traddodiadol y priodasau, pan fo’r haul yn gwenu ar y fodrwy, y siampen a’r cariad yn llifo. Mewn byd delfrydol o leiaf. Rhyw ddiwrnod delfrydol felly oedd hi 29 mlynedd yn ôl, wrth i 750 miliwn o wylwyr teledu byd-eang gael eu swyno gan briodas dylwyth teg yng nghadeirlan St Paul’s, Llundain. Un o briodasau mwyaf costus ond ofer erbyn hyn wrth gwrs. Ond ar y pryd, roedd hi’n gyfle i bobl Prydain anghofio am Thatcher a therfysgoedd Toxteth trwy drefnu partïon stryd mewn môr o Jacs yr Undeb. A dathlu oedd ar feddyliau trigolion cymuned lofaol yn Royal Wedding hefyd, drama unigol a ddarlledwyd ar BBC2 wythnos diwethaf. Drama wedi’i hadrodd o safbwynt Tammy Caddock, merch ifanc bymtheg oed, a oedd yn prysur werthu tocynnau ar gyfer parti mawr gyda sosej rôls, cystadleuaeth gwisg ffansi roc a phop, gwobr am y steil gwallt gorau fel Diana, a disgo gyda TJ y DJ a oedd mor gawslyd â Jônsi. Ac yng nghanol hyn i gyd, mae pawb yn benderfynol o fwynhau er gwaethaf cymylau duon diweithdra a phroblemau priodasol eu hunain - o’r fam ifanc sy’n ysu am ddechrau newydd gyda’i chariad Iypïaidd, i’w gŵr di-waith a’i freuddwyd gwrach am fod yn ganwr pop a’r ffrind lesbiaidd a’i chrys-t “Don’t do it Di!”. Ac yng nghanol hyn i gyd, cawsom sawl clip o sbloets fawr y Windsors. Roedd naws arbennig iawn i’r ddrama, ac roeddech chi wir yn teimlo fel petaech wedi glanio ym 1981- o’r ceir Datsun, y dynion mwstashiog a’r merched Nolans-aidd - a haul Gorffennaf yn pefrio ar y sgrîn. Dyna’r uchafbwynt i mi. Yr isafbwynt oedd y defnydd o actorion dŵad o Swydd Efrog a Stafford i bortreadu’r brodorion. Mewn gwirionedd, y cymeriadau ymylol a’r actorion Cymreig sy’n aros yn y cof. Rhai fel Alan Garvey (Alun Raglan), Robbie (Aled Pugh, enillydd haeddiannol gwobr 'Actor Gorau' BAFTA Cymru 2010 am ei ran yn y ffilm Ryan a Ronnie) a Dolly (yr hyfryd Wendy Phillips a welwyd yn y ffilm Very Annie Mary), clamp o gymêr mewn gwisg Gymreig sy’n fodlon braf gyda’i Babycham a’i theledu bach ar garreg y drws.